Her-straeon: sesiwn greadigol ar-lein newydd gan Bro360

Cyfle i glybiau, cymdeithasau ac ysgolion dderbyn sesiwn ddigidol yn 2021

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydych chi’n glwb, cymdeithas neu’n ysgol sy’n chwilio am weithgaredd saff i’w gynnal yn y flwyddyn newydd?

Mae gan Bro360 yr ateb i chi!

Rydym wedi creu Her-straeon: set o heriau creadigol hwyliog i’w cwblhau fel criw.

Bydd un o Ysgogwyr Bro360 yn ymweld â chi (o bellter – trwy Zoom neu Teams) ar eich noson clwb neu mewn gwers, ac yn eich arwain trwy’r heriau hwyliog gan gyflwyno senarios gwahanol. Eich tasg fydd cwblhau 3 her wahanol fel grwpiau o 3-4 aelod o fewn yr awr.

Dyma sesiwn fydd yn:

  • annog cydweithio fel tîm
  • galluogi creadigrwydd
  • eich helpu i adnabod eich bro ychydig yn well…

Bydd yn llawer o hwyl hefyd!

Trefnu sesiwn

Mae’n sesiwn rad ac am ddim, ac ar gael i gymdeithasau ac ysgolion (Bl.6 neu’n uwch) yn ardaloedd Arfon a Cheredigion.

Cyntaf i’r felin i archebu lle… dim ond un stafell Zoom gallwn fod ynddi ar unrhyw adeg! ;)

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lowri: post@bro360.cymru.