Straeon bro mis Ebrill – ffefrynnau tîm Bro360

Aelodau tîm Bro360 – Dan, Guto, Lowri, Lleu ac Owain – sy’n dewis eu hoff straeon bro o fis Ebrill

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Wrth edrych nôl ar straeon y gwefannau bro ym mis Ebrill, mae un peth yn sefyll mas – amrywiaeth.

Felly mae Dan, Guto, Lowri, Lleu ac Owain o Bro360 wedi crynhoi ein hoff straeon i chi – felly dyma nhw, 5 o ffefrynnau’r tîm am y mis:

Dewis Dan, Ysgogydd Bro360 yng ngogledd Ceredigion:

Un o ddatblygiadau mwyaf cyffrous mis Ebrill oedd clywed bod ystadegwr-y-funud, y crwt ysgol 16 oed o Aberystwyth, Lloyd Warburton, am fod yn cyhoeddi’r ystadegau Covid-19 diweddaraf o safbwynt Ceredigion ar BroAber360. Dyma ei ddiweddariad wythnosol cynta:

COVID-19: Y sefyllfa yng Ngheredigion

Lloyd Warburton

Erthygl wythnosol gyntaf gan Lloyd Warburton yn trafod sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Dewis Guto, Ysgogydd Bro360 yn Arfon:

Un o fanteision mwya’r gwefannau bro yw eu bod yn lle i chi gyhoeddi’r hyn sy’n bwysig i chi. Does dim rhaid dibynnu ar gael sylw gan ryw dîm o olygyddion canolog neu holi’n garedig i rywun arall am sylw. Os ydych chi’n byw yn y fro, eich lle chi i gyhoeddi yw’ch gwefan fro.

Dyna wnaeth y ffermwr Mari Hughes ar DyffrynNantlle360, gyda darn barn sy’n agos at ei chalon:

“Cofiwch am y rhai sydd wedi cadw’r wlad i fynd” ar ôl yr argyfwng yma

Mari Wyn Hughes

Sut mae bywyd wedi newid i ni ar y fferm yn ystod yr wythnosau diwethaf.

 

Dewis Lowri, Cydlynydd Prosiect Bro360:

Mae fideos spŵff wedi bod yn boblogaidd iawn gan griw ifanc o Gardis sydd wedi ffindio ffordd greadigol (a hwyl) o ymdopi â’r amgylchiadau, ac mae modd gweld sawl un ar YouTube BroAber360 a Clonc360.

Ond mae hon gan Steffan Nutting yn fath arall o hwyl – a phwy well i serennu yn y cyfweliad Sky Sports-aidd ond y maferic pêl-droed o Dal-y-bont, Mair Nutting!

 

Dewis Lleu, gohebydd bro golwg360:

Mae’r blog yma gan Rhodri Price ar Clonc360 yn rhoi darlun o’r tristwch pan ddaeth y coronafeirws ag antur seiclo gyffrous i ben.

Trafferth ym mharadwys

Rhodri Price

Y Coronafeirws yn dod ag antur seiclo’r byd i ben.

 

Dewis Owain, Cyfarwyddwr Bro360:

Yn ôl Owain, roedd hi’n job dewis un stori. Ond mae ’na un stori leol sydd wedi’i chreu gan ohebydd golwg360 ar gyfer BroAber360, yn dangos gwerth gohebu bro.

Mae’n ‘stori newyddion da’ hyfryd am fwyty gwib y ‘Syrian Dinner Project’ a sefydlwyd gan bum merch o Syria fel ffordd i adeiladu perthynas â’u cymuned leol ar ôl symud i Gymru.

Ffoaduriaid yn dosbarthu prydau bwyd i Ysbyty Bronglais

Gohebydd Golwg360

100 o brydau i’r Gwasanaeth Iechyd gan y ‘Syrian Dinner Project’

 

Mwy am straeon mwyaf poblogaidd y gwefannau bro yn egylchlythyr Bro360 mis Ebrill – cofiwch danysgrifio i dderbyn y diweddaraf bob mis.