Y peth gorau am y gwefannau bro yw mai chi – bobol leol – sy’n creu.
Dyma rai o’r straeon mwya difyr a phoblogaidd ar wefan fro gogledd Ceredigion yr wythnos ’ma…
Saith stori BroAber360
1. Gwenllian Grigg sydd wedi ffindio hen gofnod o ffyrdd gwahanol o gyfri defaid mewn 3 bro wahanol. Dim un, dau, tri yw hi fan hyn!
Eini, beini, bara – Dirgelwch y dulliau rhifo
2. Stori fach gadarnhaol am waith da cymuned Penparcau yn cefnogi pobol mewn angen.
Tîm Gweithredu Penparcau yn cefnogi’r gymuned
3. Serlog. Spralen. Twten. Beth mae’r geiria ma’n meddwl? Fyddwch chi’n eu gweud? Megan Sarnau sydd wedi dechrau pethau bant trwy gasglu tafodiaith top y sir. Sda ti eiriau bach i’w hychwanegu?
Geiriau tafodieithol Gogledd Ceredigion
4. Yr ail o straeon hanes bro gan Aled Morgan Hughes. Y tro hyn, mae’n edrych ar ymateb yr awdurdodau yn Aberystwyth a Cheredigion i argyfwng Ffliw Sbaen.
Aberystwyth a Ffliw Sbaen 1918/9
5. Stori newydd heddiw – a’r cyntaf gan Eurig Salisbury! Diolch am fynd â ni i India, heb symud o’n soffa!
O Aber i bellter byd
6. Mae ffanatics chwaraeon yn dal i ffindio ffordd o gadw’n heini (a chystadlu!). Dyma ddarn am lwyddiant ysgubol Clwb Rhedeg Aberystwyth mewn ras ddigidol dros y penwythnos.
Llwyddiant i dimau Aber yn ras gyfnewid 15 awr ‘rithiol’
7. Pawb a’i brofiad. Ac mae Mari wedi crisialu ei phrofiad o fod yn Faer Aberystwyth yn hyfryd yn y stori fach yma.
Fy mhrofiad o fod yn Faer!
Mae ’na fwy! Mwy o straeon o’r wythnos hon (yn cynnwys stats Covid lleol diweddaraf Lloyd Warburton, a blog Rhodri Francis sydd mas yn Thailand)… a mwy o straeon o’r archif! Mwynhewch y darllen, y gwylio a’r gwrando.