9 rheswm dros siopa’n lleol a dweud ‘hwyl fawr’ wrth gwmnïau mawr

Mae cefnogi busnesau bach yn helpu’r economi leol, ac mae’r economi leol yn helpu cymdeithas

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Yn ddiweddar mae nifer ohonom wedi ffarwelio â’n harferion archebu ar-lein, ac wedi dweud hwyl fawr wrth gwmnïau mawr, gan benderfynu gwario ein harian yn lleol.

Mae’r pwyslais ar siopa’n lleol wedi cynyddu yn sgil y pandemig, wrth i bobol werthfawrogi mwy ar bopeth ‘lleol’. A gwych o beth yw hynny.

Er ei bod yn haws gweld manteision siopa’n lleol ar hyn o bryd, mae’r rhesymau dros gefnogi busnesau bach annibynnol yn parhau y tu hwnt i unrhyw greisis.

Mae gan Lisa Tomos syniadau am sut i gefnogi busnesau bach ei hardal hi y ’Dolig hwn ar Ogwen360.

Ac fe aeth Bro360 ati i grynhoi rhai rhesymau dros siopa’n lleol eleni… a thrwy’r flwyddyn, pob blwyddyn!

1. Rhoi hwb i’r economi leol

Efallai mai dyma un o’r rhesymau amlycaf dros siopa’n lleol. Wrth wario ein punt mewn siop leol, rydym yn buddsoddi arian yn yr economi leol, ac mae swm sylweddol o’r arian hwnnw’n dychwelyd i’r gymuned.

Bydd yr incwm yma yn cynorthwyo twf economaidd a datblygiadau yn ein milltir sgwâr, ac yn ei dro yn cyffwrdd â’r gymuned mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae busnesau lleol yn cyflogi gweithwyr lleol, a thrwy siopa a buddsoddi mewn cwmnïau lleol byddwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar swyddi’r ardal. Po fwyaf o swyddi sydd mewn ardal, yr iachaf fydd yr economi a chymdeithas.

2. Cynnyrch unigryw a gwreiddiol

Wrth siopa gyda chwmnïau mawr mae peryg y bydd pawb yn berchen ar yr un eitemau – fel y crys ‘na o wyneb Rihanna yr oedd pob bachgen ar hyd a lled y wlad yn ei wisgo tua 2011… dwi’n siŵr eich bod chi naill ai wedi bod yn berchen ar un, neu’n cofio gweld wyneb Rihanna’n syllu arnoch chi o bob twll a chornel ar un pwynt!

Ond pwy sydd eisiau bod yr un peth â phawb arall?

Mae cymaint o gynnyrch ein busnesau bach yn unigryw, a thrwy siopa gyda nhw bydd gennym fwy o siawns o roi anrheg unigryw, neu gael addurn unigryw yn ein cartref. Mae ‘na bersonoliaeth yn perthyn i’r eitemau y byddwn yn dod ar eu traws mewn siopau bychain, o gymharu â’r hyn deimlwn ni wrth weld degau o’r un cynnyrch wedi’u llwytho ar silffoedd mewn siopau mawr. Yn aml iawn, mae safon y cynnyrch yn uwch na’r hyn sy’n cael ei werthu gan gwmnïau mawr.

3. Cefnogi pobol leol

Wrth gefnogi busnesau bach, rydym yn cefnogi breuddwyd a bywoliaeth perchnogion lleol, ac yn eu cynorthwyo i dalu’r biliau bob mis. Bydd y bobol hyn yn gwerthfawrogi ein cefnogaeth, ac yn ddiolchgar am bob pryniant. Mae’n bosib iawn y byddwn yn rhoi gwên ar eu hwynebau :)

4. Mwy cynaliadwy

Ar y cyfan, mae busnesau bach yn tueddu i ddefnyddio mwy o ddeunyddiau lleol, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd gan nad oes yn rhaid cludo’r cynnyrch ymhell. Gallwn chwilio am fusnesau lleol sy’n defnyddio deunydd cynaliadwy i greu eu cynnyrch, gan gyfrannu ag at wella’n hamgylchedd.

Ar ben hynny, wrth siopa’n lleol rydym yn arbed costau teithio, ac yn cwtogi ar lygredd fyddai’n cael ei gynhyrchu wrth yrru i ddinas neu dref arall i wneud ein siopa.

5. Siopau annibynnol yn buddsoddi yn y gymuned

Ydych chi wedi sylwi faint o siopau annibynnol sy’n buddsoddi eich cymuned – trwy noddi gweithgareddau ein clybiau a’n hysgolion, cynnig gofod i fudiadau a chymdeithasau, cefnogi ffeiriau a sioeau, cynnig gwobrau raffl i elusennau lleol, neu drwy helpu i hyrwyddo gwahanol ddigwyddiadau?

Mae busnesau lleol > cymdeithasau lleol > pobol leol yn gylch allweddol sy’n troi ym mhob bro.

Y ffordd orau o roi rhywbeth yn ôl yw trwy gefnogi’r busnesau sy’n eich cefnogi ein cymuned.

6. Cyngor personol a chyfeillgar

Yn aml iawn bydd siopau lleol yn gallu rhoi cyngor personol a chyfeillgar i ni, ac yn cyflogi gweithwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes. Mae’n debyg y byddwn yn ‘nabod rhai o’r gweithwyr, ac y bydden nhw’n gallu cynnig cyngor ac argymhellion mwy personol ar sail hyn. Gan fod busnesau lleol yn dymuno ein gweld ni’n dychwelyd, mae yn eu natur i fod yn hynod o gymwynasgar.

7. Cynnig gwasanaeth cludo lleol

Gan fod siopau lleol yn agosach atom ni’n ddaearyddol na warysau’r corfforaethau mawr, yn aml iawn mae’n cymryd llai o amser i ddanfon y cynnyrch i’n cartrefi. Mae’n canlyn, hefyd, bod costau cludo yn rhatach. D’ydy hi ddim bob tro’n rhatach siopa ar y we!

8. Cynnal gwir gymuned

Wrth gefnogi siopau bychain mewn trefi a phentrefi ledled y wlad, rydym yn cyfrannu ag at gynnal gwir gymuned. Mae cael siopau llewyrchus a phrysur ar y stryd fawr yn creu bwrlwm yn lleol, ac yn cynnal a chryfhau’r ymdeimlad o berthyn. Mae perchnogion sy’n byw yn lleol yn llai tebygol o godi pan a symud eu busnes i ardal arall, gan eu bod yn perthyn i’r gymuned, ac yn dymuno ei gweld yn ffynnu.

9. Hybu cystadleuaeth ac amrywiaeth

Po fwyaf o fusnesau llwyddiannus, po fwyaf o ddewis ac amrywiaeth fydd ar gael i ni. Mae cystadleuaeth ac amrywiaeth yn arwain tuag at greu mwy o opsiynau a dewisiadau i’r prynwr. Cynnal nifer fawr o fusnesau bychain yw’r ffordd orau o sicrhau arloesedd, a phrisiau teg, yn y tymor hir.

Beth sy’n eich atal chi rhag siopa’n lleol?

Cadwch lygad ar eich gwefan fro dros y dyddiau nesa – mae ar fin dod yn lle i’ch helpu chi i #siopanlleol eleni!