Sut mae rhannu dolen ar wefan fro?

Gair o gyngor ar gopïo URL i wefan arall

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Wyddoch chi bod na ffyrdd da, a ffyrdd dim cystal, o rannu DOLEN i wefan arall?

Oes wir!

Dewiswch y testun, ac yna dewis y symbol ‘dolen’ ?

Y prif air o gyngor yw hyn: dylai testun dolen fod yn ystyrlon, yn hytrach na chyfeirio at y ffaith ei fod yn ddolen!

? Peidiwch â dangos URL byth – dylen nhw fod mor anweledig a chôd HTML o safbwynt y defnyddiwr.

? Ceisiwch osgoi berfau/gweithredoedd yn ymwneud â’r ddolen (fel cliciwch, pwyso, agor)

? Dylai testun y ddolen fod yn ystyrlon, yn gysylltiedig â’i chynnwys, ac yn ddealladwy allan o gyd-destun (fel teitl amgen, bron).

? Ceisiwch ffurfio’r ddolen o eiriau sy’n rhan o frawddeg naturiol os yn bosib – hynny yw, dylai‘r frawddeg wneud synnwyr heb y ddolen.

ee. GWAEL “Yn ystod Covid-19 mae nifer o bobl wedi creu grwpiau ar Facebook. Cliciwch yma i ymweld ag un Twm.”

ee. DA “Mae Twm yn un o nifer o bobl sy wedi creu grŵp ar Facebook yn trafod Covid-19.”

Pam?

  • Achos mae peiriannau chwilio yn defnyddio’r testun fel awgrym cryf o’r cynnwys (dydi URL moel na “cliciwch yma” ddim yn golygu unrhywbeth).
  • Nid pawb sy’n clicio – gallan nhw fod yn pwyso/sweipio/galw/pwyntio/nodio…
  • Dydi URLs ddim yn gwneud synnwyr mewn ap / wedi argraffu / bron unrhywle (maen nhw fod i gyfrifiaduron, nid i bobl)

? Gall fod yn help i fusnesau/cymdeithasau lleol i ddefnyddio’r enw iawn neu ddisgrifiad call mewn dolen.

ee. “Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Clwb Rygbi Abertref” yn well na “Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Clwb Rygbi Abertref”

Felly, mae dolenni da yn cefnogi’r gymuned!