Penodi Shân Pritchard yn ohebydd lleol golwg360

Mae brodor o Fethesda newydd gael swydd yn ei milltir sgwâr, fel gohebydd lleol i golwg360.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae brodor o Fethesda newydd gael swydd yn ei milltir sgwâr, fel gohebydd lleol i golwg360.

Mae Shân Pritchard yn gohebu ar y newyddion sy’n codi yn ardal Arfon, gan gyfrannu straeon newyddiadurol i wefannau bro Ogwen360, DyffrynNantlle360, Caernarfon360, BroWyddfa360 yn ogystal â gwefan genedlaethol golwg360.

Bydd hefyd yn gohebu ar straeon yng Ngheredigion, gan gyfrannu at y 3 gwefan fro arall sydd wedi’u creu dan adain cynllun Bro360.

Yn ystod ei wythnos gyntaf yn y swydd, aethom i holi Shân am dipyn o’i hanes, gan ddechrau gyda’i bro enedigol…

Beth yw’r peth gorau am Ddyffryn Ogwen?

Heb os, y bobol – mae pobol Pesda’n sdicio hefo’i gilydd bob amser. Mae chips Mabinogion yn ail agos iawn!

Rho syniad o ddiwrnod arferol yn y gwaith

Wel dim ond newydd ddechrau ydw i, a hyd yn hyn mae pob diwrnod yn amrywiol a dwi’n dal i ddysgu! Dwi’n dechrau pob diwrnod trwy fynd i chwilio am straeon, ac yn holi pobol o gwmpas yr ardal be sy’n eu poeni nhw. Ar ôl penderfynu pa straeon sy’n flaenoriaeth a meddwl sut i’w gwneud nhw, dwi’n mynd ati i greu straeon lleol gwreiddiol, neu addasu straeon cenedlaethol i gynnwys lleisiau lleol. Ond yn aml gyda newyddion mae stori newydd yn torri pan dwi ar ganol un arall, felly mae angen ymateb a symud yn gyflym!

Rwyt ti newydd orffen dy PHD. Beth oedd dy bwnc?

Testun y traethawd oedd y Gymraeg o fewn y byd digidol, gan edrych ar brofiadau ac agweddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog. Mae’r byd digidol yn gallu bod yn dirwedd heriol ar gyfer ieithoedd bach y byd ond gall hefyd ddarparu cyfleoedd newydd, cyffrous i iaith.

Beth yw’r pethau mwya wnes ti ddysgu o’r astudiaeth?

Un o brif ganfyddiadau’r astudiaeth oedd bod y Gymraeg mewn safle gymharol gryf o ran y ddarpariaeth o ddeunyddiau digidol Cymraeg eu hiaith a’r defnydd a wneir ohonynt. Fodd bynnag, gwelwyd bod rhai cyfleoedd pellach i adeiladu ar hynny wrth i’n bywydau dyddiol symud fwyfwy ar-lein.

A fydd elfennau o’r radd yn dy helpu yn dy swydd newydd?

Yn sicr, mae cynnal yr astudiaeth hon wedi gosod sylfaen gadarn i mi gychwyn ar fy swydd newydd. Mae gen i syniad da o ddyheadau siaradwyr Cymraeg wrth greu cynnwys ar-lein ac o’r angen i’r Gymraeg fod â phresenoldeb cadarn yn y byd digidol.

Pam bod newyddion lleol yn bwysig?

Drwy adrodd ar newyddion lleol gallwn gynyddu’r ymdeimlad o gymuned a pherthyn, sydd i mi, yn fwy pwysig nag erioed.

Pa wahaniaeth hoffet ti ei wneud yn y swydd newydd?

Hoffwn adeiladu ac ehangu ar y gwaith gwych sydd eisoes wedi ei gynnal, ac arbrofi gyda gwahanol ddulliau o gyfleu ac arddangos y newyddion diweddaraf.

Beth yw dy obeithion ar gyfer dy wefan fro di – Ogwen360?

Hoffwn i Ogwen360 fod yn blatfform agored er mwyn rhannu llwyddiannau, digwyddiadau a straeon lleol ac i fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer holl aelodau’r gymuned arbennig hon.

A 3 chwestiwn bach sydyn…

Llyfr nodiadau neu sgrîn?

Mae’n rhaid i mi gyfaddef – mi ydw i’n ffan mawr o lyfr nodiadau!

Pa fath o swydd fyddet ti’n ei chasáu?!

Ar ôl treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn adnewyddu tŷ, mi fyswn i’n gwneud plastrwr gwael iawn yng nghanol yr holl lwch. Ych!

Beth yw’r peth mwyaf heriol am gyfnod Covid?

Hiraeth!

* **

Pob hwyl i ti Shân yn dy swydd newydd sbon.

Os oes stori newyddion caled yn codi yn eich ardal chi a byddech yn dymuno i’r gohebydd fynd i’r afael â hi, anfonwch neges at Shân ar ShanPritchard[at]golwg[dot]com

Cofiwch, ochr yn ochr â straeon newyddiadurol gan Shân a gweddill tîm golwg360, mae pob gwefan fro yn cynnig y cyfle i chi rannu eich straeon, eich profiadau a’ch dyheadau.

Ewch ati i Ymuno > Creu > a Rhannu!

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)