Ble yn y byd (wel, ble yng Nghymru!) mae gwefannau Bro360?

Mae 7 gwefan straeon lleol wedi’u creu gyda help Bro360 – a dyma ble maen nhw…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Cymunedau yn ardal Arfon a Cheredigion sydd wedi creu gwefannau straeon lleol gyda help prosiect peilot Bro360.

Mae 7 gwefan wedi’u creu erbyn hyn – a dyma ble maen nhw…

Ardal Arfon

BroWyddfa360.cymru

Gwefan pobol Dyffryn Peris a Dyffryn Gwyrfai. Dyw hi ddim yn syndod i’r criw lleol ddewis yr Wyddfa fel eicon y wefan.

Caernarfon360.cymru

Gwefan gan bobol y dre’ Gymreicia’ yn y byd! Y castell yw eu symbol nhw.

DyffrynNantlle360.cymru

Gwefan pobol Dyffryn Nantlle yw’r hynaf o wefannau Arfon. I ddathlu’r cysylltiad â’r Mabinogi a chwedl Blodeuwedd, dewisodd y criw lleol y dylluan fel eicon.

Ogwen360.cymru

Gwefan pobol Dyffryn Ogwen. Mae’r crawia i’w gweld ym mhobman ar hyd y ffyrdd a’r caeau yn y Dyffryn, a dyna symbol y wefan fro.

Ceredigion

BroAber360.cymru

Gwefan fro i gymunedau gogledd Ceredigion, sy’n ymestyn o Dre’r Ddôl i Lanrhystud; o Aberystwyth i Gwmystwyth. Mae’r bont yn symbol o holl bontydd y fro, sy’n dod â phobol ynghyd ac yn creu cysylltiadau.

Caron360.cymru

Gwefan pobol Tregaron a’r cylch yw’r ifancaf o’r saith, ac mae Caron360 yn ymestyn o Bontrhydygroes i Fethania, ac o Ledrod i Landdewi Brefi. Mae’r aderyn sy’n hofran dros y fro yn cadw llygad ar bawb a phopeth – y barcud – yn symbol perffaith i gyfleu nod y wefan. Mwy o hanes y logo.

Clonc360.cymru

Gwefan fro Llanbed a’r cylch yw’r hynaf o’r cyfan – y “peilot cyn y peilot” sy’n bartneriaeth rhwng cwmni Golwg a’r papur bro lleol.

Pam 360?

Partneriaeth rhwng y cymunedau lleol a chwmni Golwg yw’r rhwydwaith o wefannau bro. Mae’r ‘360’ yn arwydd o’r cysylltiad rhyngddyn nhw â’i gilydd ac â gwefan newyddion cenedlaethol golwg360.