Dros yr wythnosau diwethaf mae pedair ysgol gynradd yn ardal Caernarfon wedi bod yn cydweithio am y tro cyntaf.
Mae’r gân ‘Castell Ni’ wedi’i chyfansoddi ar y cyd gan y cerddor lleol Elidyr Glyn a disgyblion Ysgol y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan.
Ddydd Mercher (4 Mawrth) perfformiwyd y gân am y tro cyntaf yng Nghastell Caernarfon, digwyddiad a oedd, yn ôl Alison Halliday, Pennaeth Ysgol y Gelli, yn “benllanw chwe wythnos o waith caled gan y pedair ysgol.”
Ychwanegodd Alison Halliday,
“Mae geiriau’r gan, ‘Mae ‘nghalon yng nghanol Caernarfon’ yn dweud y cyfan, ac yn adlewyrchu ymdeimlad y plant tua’r dref a’r ardal ehangach.”
Roedd cyfansoddi’r gân yn rhan o gynlluniau ehangach yr ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer cwricwlwm newydd erbyn 2022.
“Profiad bythgofiadwy”
“Mae’r gân yn gyfle i ni fel athrawon, a’r disgyblion arbrofi gyda’r cwricwlwm newydd, ac yn gyfle gwerthfawr i’r plant gael rhoi mewnbwn a lliwio sut maen nhw’n dysgu.”
Meddai Pennaeth Ysgol y Gelli:
“Mae’r themâu newydd wedi creu bwrlwm arbennig, ac roedd cael canu ym muriau’r castell yn brofiad bythgofiadwy i’r plant… a’r athrawon!”
Y gobaith yw y bydd yr ysgolion yn parhau i gydweithio â’i gilydd yn y dyfodol, a pharhau i bontio o ysgol i ysgol.
Dyma’r disgyblion yn canu yng Nghastell Caernarfon ar raglen Heno:
Mae'r cerddor Elidyr Glyn wedi bod yn gweithio gyda phlant ardal Caernarfon i gyfansoddi'r gân 'Castell Ni' gafodd ei chlywed am y tro cyntaf bore 'ma yng Nghastell Caernarfon!???????? pic.twitter.com/sQBZTEOzKb
— Heno ??????? (@HenoS4C) March 4, 2020