CYHOEDDI: Cwrs i feithrin gohebwyr ifanc y gorllewin

Cwrs newydd sbon gan Bro360 a chwmni Golwg i bobol ifanc gael dysgu gan y goreuon

Lowri Jones
gan Lowri Jones
GALW.gohebwyr-ifanc-gorllewin-1

*CYFLE UNIGRYW*

Wyt ti’n ysu i fod yn ohebydd, ac eisiau dysgu gan y goreuon?

Wyt ti’n 16-30 oed ac yn byw yn ardal Arfon neu Geredigion?

Wyt ti’n credu ei bod hi’n werth clywed straeon am dy ardal di?

 

Mae gan Bro360 a chwmni Golwg gyfle unigryw i ti…

CWRS GOHEBWYR IFANC!

Yn y cwrs newydd sbon yma, byddi di’n darganfod:

? sut mae dod o hyd i straeon lleol cyn neb arall!

? y tips gorau am dynnu lluniau, cynhyrchu fideo fer a phodlediadau

? sut mae cyfweld a strwythuro stori newyddion

? yr holl ‘tips of the trade’ gan rai o newyddiadurwyr mwyaf profiadol a blaenllaw Cymru

 

Y tiwtoriaid

Byddi di’n elwa o ddysgu gan amrywiaeth o bobol sydd â phrofiad o newyddiadura, gohebu ar straeon lleol a chreu cynnwys amlgyfrwng, gan gynnwys Dylan Iorwerth, Garmon Ceiro, Dylan Lewis, Euros Lewis a mwy.

Ac ar ôl cwblhau’r 5 sesiwn, fe fyddi di’n ennill tystysgrif ‘Gohebydd Bro’ gan Golwg – cwmni sydd â dros 30 mlynedd o brofiad ym maes newyddiaduraeth annibynnol yng Nghymru.

 

Pethau bach pwysig

  • Dim ond lle i 12 sydd… felly cyntaf i’r felin!
  • Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar Zoom ar draws 5 nos Fawrth yn olynol, gan ddechrau ar 3 Tachwedd 2020.
  • I ddangos diddordeb, anfona fideo / pwt o baragraff yn esbonio pam dy fod di’n credu bod newyddion lleol yn bwysig, at lowrijones@golwg.com
  • Dyddiad cau dangos diddordeb: 27 Hydref.
  • Mae hwn yn gwrs rhad ac am ddim gan gynllun Bro360 – a ariennir gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru: Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)