Lansiad BroAber360 yn gyfle i rasio, gwylio, prynu’n lleol a chynllunio cymdeithas y dyfodol

Edrych nôl ar wythnos lansiad digidol BroAber360

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Teilo Trimble – un o’r criw o BroAber360 fu’n creu sesiwn ar gyfer lansiad y wefan

Roedd hi’n wythnos llawn cyffro a phrysurdeb ar BroAber360 yr wythnos diwethaf, wrth i’r wefan lansio’n ddigidol drwy ddathlu #EinBro.

Roedd busnesau a chrefftwyr lleol yn rhan ganolog o’r wythnos, wrth i BroAber360 ddangos potensial a bwriad y gwasanaeth i helpu’r economi leol.

Yn ogystal â fideos a straeon amrywiol am ddiddordebau pobol y fro, cynhaliwyd trafodaeth agored hynod gyfoethog ar y math o gymdeithas yr hoffen ni ei hadeiladu ar ôl argyfwng Covid-19. Bydd y drafodaeth honno, a’r rhai sydd eto i ddod, yn llywio gwaith Bro360 am y misoedd nesaf wrth i ni fynd ati i ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n gwneud gwahaniaeth i’n cymdogaethau lleol.

Beth a phwy yw BroAber360?

“Dyma ein gwefan ni” – dyna’r neges gan griw o bobol leol a grëodd fideo i hyrwyddo BroAber360, a ryddhawyd ar ddechrau’r wythnos:

Ac mae’n wir! Y peth gorau am y wefan yw mai pobol gogledd Ceredigion (ie – chi!) sy’n cael cyhoeddi arni. Y cyfan sydd angen ei wneud yw mynd i Ymuno neu Mewngofnodi ar BroAber360.cymru, a phwyso’r botwm Creu i greu dy stori!

Hefyd ar ddydd Llun, cyhoeddodd Megan Sarnau mai serlog, spralen a twten yw ei hoff eiriau tafodieithol. Ydych chi’n gyfarwydd â’r rhain? A beth yw eich hoff eiriau chi o’ch milltir sgwâr? Gallwch gyfrannu at y casgliad trwy adael sylw ar waelod darn Megan.

Rhoi hwb i fusnesau lleol

Buodd Instagramwyr lleol yn brysur ar y dydd Mawrth yn rhoi sylw i rai o’u hoff fusnesau lleol trwy eu tagio mewn templed Instagram. Roedd hi’n wych gweld faint o bobol sy’n gwerthfawrogi busnesau lleol, yn enwedig mewn cyfnod sydd mor anodd iddyn nhw.

Y neges amlwg oedd y dylem i gyd barhau i gefnogi busnesau lleol yn awr ac yn y dyfodol, a diolch i bawb a gymerodd ar Instagram i ddangos hynny yn ystod wythnos #EinBro. Gallwch weld hoff fusnesau’r gymuned leol yma:

Cefnogi #BusnesauBro gogledd Ceredigion

Daniel Johnson

Be di hoff fusnesau bach pobol gogledd Ceredigion?

Ein nod fydd sicrhau bod BroAber360 (a’r gwefannau bro eraill sy’n dod dan adain Bro360) yn helpu i gynnal y cylch economi lleol yma trwy fod yn blatfform i helpu busnesau lleol i’r dyfodol.

 

Prosiect Fory: dychmygu’r dyfodol

Un arall o ddatblygiadau cyffrous yr wythnos oedd cynnal y cyntaf mewn cyfres o sgyrsiau sy’n cynllunio ein dyfodol. Ar ôl yr argyfwng, pa fath o gymuned fydd gyda ni? Dyma oedd cyfle criw o bobol gogledd Ceredigion, dan arweiniad Bro360 a Radio Beca, i gwestiynu ac adnabod y gymdeithas rydym am ei datblygu i’r dyfodol.

Roedd yn drafodaeth hynod gyfoethog, ac yn dangos elfen arall o bosibiliadau Bro360, sef annog trafodaeth (yn ogystal â chreu platfform i rannu straeon). Bennodd y sgwrs gyda phawb yn mynd oddi yno’n llawn gobaith ar gyfer adeiladu cymdeithas y dyfodol! Cadwch lygad mas am fanylion sesiwn nesa Prosiect Fory.

 

Diwrnod llawn gweithgareddau digidol

Uchafbwynt yr wythnos oedd y dydd Gwener – diwrnod llawn fideos a chynnwys gwahanol ar BroAber360, a chyfle i nifer o bobol o bob cwr o’r fro greu.

Dechreuodd y diwrnod gyda reid feics rithiol 160km yng nghwmni Pencampwr Ffordd Cymru, Gruff Lewis, a drefnwyd gan Shelley o Ŵyl Seiclo Aber. Roedd dros 100 o bobol ar draws y byd wedi cymryd rhan yn y ras, ac roedden ni adre wedi mwynhau gwylio’r criw ar Facebook Live wrth iddynt feicio am oriau o’u cartrefi ac ateb ein cwestiynau!

Buodd Arad Goch yn cynnal gweithdy creu pypedau, cawsom fideo hunan-dylino gan Alexis Flores Williams a Chyflwyniad i Gelf Haniaethol gan Teilo Trimble, i enwi ond rhai.

Rhwng 3 a 8 roeddem yn rhoi hwb arall i fusnesau lleol. Daeth yr amser i gynnal y Ffair Grefftau gyntaf ar wefan fro, sef ffair Crefftwyr Aberystwyth. Fuoch chi’n prynu gan y criw? Cadwch lygad ar dudalen y Crefftwyr i ddarganfod dyddiad nesa’r ffair.

Cafodd sawl fideo arall eu rhyddhau drwy gydol y diwrnod, gan gynnwys prosiect ‘Yn un rhith’ Côr ABC a Chôr Dinas, gig byw gan Steff Rees o’r band Bwca, a hanes ardal Soar y Mynydd, Tregaron gan Gwilym Jenkins. Gallwch weld y cyfan eto ar ffrwd Diweddaraf BroAber360, ond dyma’r fideo gan Gwilym:

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb fuodd yn creu yn ystod y diwrnod!

Mae’n debyg bod y fideos wedi cael eu gwylio rhyw 10,000 o weithiau ers dydd Gwener, sy’n dangos bod diddordeb amlwg i gynnal digwyddiadau digidol yn lleol.

Be fyddech chi’n hoffi ei weld nesa? Gadewch sylw isod!