Hughie’r Glo, Hughie’r Glo, Hughie’r Glo, a ‘chaneuon’ poblogaidd eraill

Mae hwyl i gael wrth rannu’r geiriau caneuon y mae pobol wedi’u camddeall ar hyd yr amser…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

I helpu’n hunain i wenu, mae pobol wedi bod yn rhannu’r geiriau caneuon ’na maen nhw wedi’u camddeall ar hyd y blynyddoedd.

Dyma’r goreuon a gasglwyd ar grŵp Facebook Cer-o-na Feirws – ni’n ’neud y pethau positif ddoe. Ewch draw i gael pip am ragor – mae clasuron i’w cael!

Mae Rhiannon Parry yn mynnu mai’r plant, ac nid hi’i hunan, oedd yn canu “Nid wy’n gofyn bywyd moethus, tecell yw na’r lili dlos!”

A meddyliwch glywed Nia Jenkins yn canu hwn nerth ei phen i dôn Living on a Prayer:  “It doesn’t make a difference if we’re naked or not”!

Tybed pwy arall oedd wedi gwneud yr un camgymeriad â Gareth Morris, yn canu cytgan Band Aid fel “Viva, woah! Let them know it’s Christmas time”?

Seithennyn cŵl

A dim jest Wyn Thomas oedd yn meddwl bod y Big Leaves yn canu “Seithennyn cŵl – anghofio cau y drws”. Roedd sawl un arall yn y grŵp yn cytuno, nes i rywun ddweud mai “cwyd” oedd y lyric cywir!

Camddeall gweddi gyfarwydd wnaeth Bryony Daly: “Mefus yn y nef, felly ar y ddaear hefyd”…

Beth yw Considious Elf?

A doedd Ifor ap Dafydd byth yn siŵr pam oedd y plant eraill yn galw Oliver yn “Considious Elf” yn y gân honno o’r ffilm, na beth oedd ystyr hynny!

Chwarae teg i Rhiannon Salisbury am gyfaddef ei bod hi yn ei hugeiniau cyn darganfod nad “Richard Roc a Rôl” o’dd Richard Robat Jones yng nghân Bryn Fôn…

Ac roedd Elen Clwyd Roberts yn 35 cyn deall bod cytgan Your Song, Elton John, ddim yn gorffen hefo “How wonderful life is while you’re in the woods”!

Ond tybed faint oedd oedran Elin Williams cyn iddi sylweddoli mai’r geiriau cywir yng nghân Heather Jones am Hedd Wyn yw “Wedi mynd mae bardd y gadair ddu”? Achos mae hi wedi bod yn canu “Wedi mynd mae’r afr a’m gadael i” am flynyddoedd!

A’r gorau ohonyn nhw i gyd gan Phil Davies, a glywodd am deulu o gefnogwyr pêl-droed yn gwylio Man United ac un o’r plant yn gofyn pam fod y cefnogwyr yn canu am “Hughie’r Glo” (Here We Go)!

… a dim ond y bobol sydd wedi sylweddoli eu bod nhw’n anghywir yw’r rhain!

Cadw’n gilydd i wenu yn y cyfnod yma

Mae’r grŵp Cer-o-na Feirws yn un o greadigaethau Bro360, wrth i ni annog pobol i rannu straeon a phytiau positif yn ystod cyfnod anodd y coronafeirws. Os ydych chi’n byw yng Ngheredigion neu Arfon, mae mwy o straeon difyr a defnyddiol yn cael eu cyhoeddi’n gyson ar eich gwefan fro – cymerwch gip!

Unrhyw syniadau am be arall hoffech chi weld? Crëwch gyfrif a rhowch w’bod yn y sylwadau isod ?

Mwy nag un lingo!

20:00, 18 Ebrill (Am ddim)

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)