Hoffi, rhannu a chreu i ddangos ein bro i’r byd

Sesiwn ddigidol Bro360 am sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wneud gwahaniaeth i’ch bro.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn bwerus, yn hwyl ac yn ffordd wych o rannu ?

Ac mae dros 60% o bobol sy’n gweld straeon y gwefannau bro yn dod atynt trwy Facebook neu Twitter.

Beth am ymuno â sesiwn HOFFI, RHANNU, CREU Bro360 dros Zoom ar nos Fercher 6 Mai? Bydd y sesiwn yn dechrau am 8pm ac yn para llai na awr!

Cyfle i rannu tips, profi’r impact y gall y cyfryngau ei gael, a rhannu syniadau am sut y gallwn ni hoffi, rhannu a chreu i ddangos ein bro i’r byd!

Croeso i unrhyw un yn Arfon, gogledd Ceredigion ac ardal Llanbed. Os hoffech ymuno â ni, dangoswch ddiddordeb yn nigwyddiad Facebook Hoffi, rhannu a chreu neu anfonwch neges at Lowri.

 

1 sylw

Iestyn Davies
Iestyn Davies

Helo Lowri, hoffwn ymuno â’r sesiwn zoom ar 6 o Fai os câi. Gyda diolch, Iestyn (Y Dinesydd)

Mae’r sylwadau wedi cau.