O’r bröydd ym mis Awst – hoff straeon y tîm

Portread o gymeriad, cyfweliadau rygbi a phêl-droed, atgofion a mwy…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Weithiau, mae cael haf gwahanol i’r arfer yn cynnig cyfle. Heb eisteddfodau (bach a mawr), heb y cyfle arferol i fynd ar wyliau pell neu fwynhau bwrlwm sioe mewn cae prysur yng nghanol y pentre’, mae cyfle i wneud pethau’n wahanol.

Rhoi sylw i bobol leol yn eu holl amrywiaeth, a hel atgofion melys am ddigwyddiadau – dyna rai o’r cyfleoedd a gymerwyd dros y mis diwethaf gan bobol Arfon a Cheredigion. A beth well na defnyddio eu gwefan fro fel lle i rannu, cofnodi a dathlu?

Dyma ddewis rhai o dîm Bro360 o’u hoff straeon dros y mis diwethaf…

 

Dewis Guto – Pobol y Dref: Buddug Jones (ar Caernarfon360)

Fideo sy’n edrych ar Gaernarfon o safbwyntiau gwahanol. Dyma safbwynt Buddug Jones, sydd wedi manteisio ar waith y grŵp Cain.

Pobol y Dref – Buddug Jones

Shiwan Gwyn

Un o gyfres o fideos sydd yn edrych ar y dref o wahanol safbwyntiau. 

 

Dewis Lowri – Atgofion Eisteddfod Llanbed (ar Clonc360)

Mae criw Clonc360 wedi gwneud gwaith anhygoel yn ysgogi pobol i rannu atgofion am Eisteddfod RTJ Llanbed dros Ŵyl y Banc. Ymhlith y naw, dim llai, o straeon #AtgofLlanbed, dyma ffefryn Lowri – atgofion croten ysgol o’r enw Elin Williams…

620136211.306567

#AtgofLlanbed – Yn groten ysgol …

Elin Williams

Atgofion Elin Williams o Eisteddfod RTJ Llambed, 1967 – 1974

 

 

Dewis Lleu – Cyfweliad â Gwion Källmark Williams (ar Ogwen360)

Mae’r gŵr ifanc o Fethesda wedi’i ddewis i hyfforddi gyda charfan Undeb Rygbi Sweden, a chafodd Lleu (sy’n ffan rygbi enfawr!) y cyfle i gyfweld ag ef

 

Dewis Dan – Podlediad Gemau Cofiadwy (ar BroAber360)

Ffan pêl-droed yw Dan, felly dyw hi ddim yn syndod iddo fwynhau cyfweliad un o Ohebwyr Bro ieuengaf BroAber360, Gruffudd Huw, â’r awdur a’r cefnogwr brwd Gwynfor Jones.

Gemau Cofiadwy

Gruffudd Huw

Yr awdur a’r cefnogwr brwd Gwynfor Jones yn son am rai o’r gemau pêl-droed rhyngwladol mae wedi eu gwylio.

 

Dewis Huw – Canwr y cap stabal yn codi calon y Cofis!

Mae Huw Bebb wedi bod yn gweithio rhywfaint fel Gohebydd Bro golwg360, ar leoliad yn nhre’r Cofis dros yr wythnosau diwethaf. Dyma’i hoff stori – sgwrs gyda’r enwog Phil Gas wrth iddo fysgio!