Helpu steddfod fach i droi’n steddfod fowr!

Cynnal darn bach pwysig o’n ffordd o fyw, er gwaetha heriau Covid-19.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Rhai o’r cystadleuwyr yn Eisteddfod Capel y Groes 2020

Pan mae popeth yn cael ei ganslo neu’i ohirio o’n cwmpas, mae’n hawdd digalonni.

Ond nid dyna wnaeth trefnwyr steddfod leol Capel y Groes ger Llanwnnen, Llanbed.

Pan gysylltodd Luned, ysgrifennydd y Steddfod, â Bro360 i holi ‘Shwt allwn ni gynnal ein steddfod ar-lein eleni?’, o’n ni’n gw’bod y byddai’r fenter yma’n llwyddo!

Gyda chymaint o bobol (mwy nag erioed) yn ddibynnol ar y we dros gyfnod Covid-19, nid yn unig am eu newyddion, ond am eu hadloniant ac i gadw cyswllt â’u cymuned, roedd y potensial yn amlwg i steddfod fach droi’n steddfod fwy, trwy ei chynnal ar-lein.

Felly aeth y criw ati i wahodd plant o bell ac agos i adrodd, llefaru, llenydda a gwneud gwaith celf a’u hanfon mewn ar ffurf fideos neu luniau trwy Facebook Eisteddfod Capel y Groes.

Roedd hi’n wych gweld yr holl gystadlu’n cael ei ddarlledu mewn fideos o safon uchel trwy gydol ddydd Mercher, ac mae’r goreuon wedi cyrraedd YouTube gwefan fro clonc360 hefyd.

Ry’n ni wedi clywed am sawl cefnogwr brwd (fyddai fel arfer wrth eu bodd yn eistedd ar sêt galed Capel neu neuadd bentre) yn joio’r holl gystadlu o glydwch eu lolfa!

Addasu i gynnal ein ffordd o fyw

Mae hyn wedi llenwi un diwrnod bach yng nghanol cyfnod y rhyfedd, a chynnal darn bach pwysig o’n ffordd o fyw, er gwaetha’r holl heriau.

Llongyfarchiadau enfawr i Luned a Manon y trefnwyr, Elin ac Enfys y beirniaid, a’r holl gystadleuwyr brwd am eich menter.

Os oes unrhyw steddfod fach arall am ddilyn ôl troed Capel y Groes a chael cyngor am yr elfennau digidol, cofiwch gysylltu.

Mwy am sut aeth y criw ati, a’r canlyniadau hollbwysig, yma ?

Eisteddfod leol ddigidol gynta’r byd!

Luned Mair

Mwy na 150 o blant dan 12 yn cystadlu trwy fideo ac ar-lein yn Eisteddfod Capel y Groes