“Co fi’n gwirfoddoli!”

Ar Wythnos Gwirfoddolwyr, Lowri sy’n holi ai ‘gwirfoddoli’ ydym ni’n ei wneud yng Nghymru?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Cymuned Lledrod yn dod at ei gilydd flwyddyn union yn ôl i gynnal Rali CFfI Ceredigion

Mae’n ‘Wythnos Gwirfoddolwyr’ ar draws y Deyrnas Gyfunol yr wythnos hon. Wythnos i ddiolch i bobol ar lawr gwlad sy’n gwneud pethau er lles eu cymuned. Er lles pobol eraill.

Ond ai ‘gwirfoddolwyr’ sydd gennym yng Nghymru?

Un o rinweddau cymdeithas Gymreig yw ein hymdeimlad o berthyn. Y teimlad sy’n ein gyrru i ymaelodi â’r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol er mwyn bod yn rhan o’r criw. Y teimlad sy’n ein denu i chwarae i’r Clwb Pêl-droed lawr y rhewl, neu i ganu gyda’r côr lleol ac ymrwymo i’r ymarferion.

A’r un teimlad sydd wedi arwain pobol ar lawr gwlad i ymateb mor, mor gyflym i argyfwng y coronafeirws, trwy sefydlu cynlluniau cymorth i helpu’r bobol yn eu bro sy’n hunanynysu. Lle’r oedd angen ymgyrch ‘Your NHS Needs You’ yn Lloegr i holi am wirfoddolwyr i gynnig eu henwau, roedd cymunedau cefen gwlad Cymru eisoes ar waith, yn gwneud gwahaniaeth.

Mae’r gweithredu o’r gwaelod lan hwn yn nodweddu cymaint sy’n dda am ein cymdeithas – yr hunan-gred, y cyd-dynnu a’r gallu i ymateb yn sydyn a bwrw ati i droi anghenion yn atebion.

Mae’r bobol yma sy’n rhoi o’u hamser (yn awr, a thrwy’r flwyddyn) i gynnal cymdeithas yn cael eu clodfori yr wythnos hon am eu hymdrechion diflino’n ‘gwirfoddoli’. Ond faint ohonyn nhw sydd am gael eu labelu fel gwirfoddolwr? Faint sydd am gael eu hystyried yn bobol neilltuol? Onid yw gwirfoddoli – neu, i roi’r enw Cymreig arno, cyfranogi – yn rhan annatod a naturiol o’n bywydau?

Cyfranogwyr sydd gan ein mudiadau, ein clybiau a’n cymdeithasau lleol. Maen nhw i gyd yn cyfrannu o’u talentau amrywiol, a gyda’i gilydd maen nhw’n cyflawni cymaint. Cyfranogwyr sydd gan ein gwefannau bro hefyd. Pobol leol sy’n creu ac yn cyhoeddi straeon difyr am eu milltir sgwâr ar-lein. Ewch i Bro360.cymru y mis yma i ddilyn lansiadau digidol rhai o’r gwefannau straeon lleol yma sydd wedi’u creu gan gymunedau yn ardal Arfon a Cheredigion.

Does dim angen cyflwyno tystysgrif i’r bobol yma am eu ‘horiau gwirfoddoli’. Maen nhw’n creu am ei fod yn rhan o’n ffordd o fyw, ac maen nhw’n gwneud hynny er lles ein cymdeithas. Achos dyna yw byw. Mae’r wythnos yma, a phob wythnos arall, yn gyfle i gydnabod y cyfranogwyr – ni oll.