Iwcadwli, straeon a chaffis Ceredigion – fy wythnos i yn y gwaith

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Mae hi di bod yn wythnos brysur tu hwnt yma yng ngogledd Ceredigion, felly ar wahân i’r ymweliadau â’r swyddfa yn Llanbed a HQ Bro360 yn Arad Goch, dyma syniad o be sy wedi bod mlaen gen i wythnos hyn.

Iwcadwli

Ar nos Lun es i i Ganolfan y Celfyddydau i weld y criw sy’n galw eu hunain yn ‘Iwcadwli’. Mae Iwcadwli, sy’n brosiect gan Fenter Iaith Ceredigion, yn gerddorfa ukulele sy di tyfu i gynnwys dros 50 o aelodau ar draws dosbarthiadau gwahanol. Nes i ddim cael cyfle i chwarae’r offeryn y tro hyn (efallai tro nesa!) ond dyma glip fideo o’r criw yn cael hwyl –

Sgrym Straeon Cwmystwyth

Mae gogledd Ceredigion yn batshyn eitha mawr, ac er mwyn ceisio gwneud yn siŵr bod pobol o bob man yn gwybod am Bro360 ac yn teimlo bod BroAber360 yn perthyn iddyn nhw, ry’n ni wedi dechrau mynd o gwmpas gwahanol bentrefi yng nghefn gwlad. Y stop cynta oedd Cwmystwyth nos Fawrth. Cynhaliwyd sesiwn yn Festri’r pentre’, lle trafodwyd sut gall Bro360 fod o fudd i bobl a mudiadau lleol, ac roedd hi’n braf gweld nifer dda yn dod i’r sesiwn. Am le lle mae’r pentre’ dros bedair milltir o hyd, mae’r gymuned yng Nghwmystwyth yn un glos a wastad yn barod i helpu ei gilydd gyda gweithgareddau’r pentre’. Edrychaf ymlaen at weld ambell stori yn dod o’r ardal yma’n fuan.

Crwydro caffis

Byddai’n anodd iawn i mi wneud fy swydd wrth aros mewn swyddfa bob dydd! Felly bues i mas mewn rhai o gaffis yr ardal ddydd Iau, i arbrofi a gweld lle gallaf ymweld â nhw’n wythnosol er mwyn dod ar eich traws chi – bobol y fro. Cadwch lygad mas am amserlen ymweliadau caffis ‘swyddogol’ dros yr wythnos neu ddwy nesa – a wela’i chi o gwmpas am baned a sgwrs.

Sgrym Straeon Tal-y-bont

Ar nos Iau cynhaliwyd ail Sgrym Straeon BroAber360, gyda sesiwn yng Nghaffi Gruff. Roedd hi’n noson llawn hwyl a chwerthin, gyda chriw o wahanol fudiadau’r pentre yn dod at ei gilydd i drafod potensial y gwasanaeth, ac i feddwl am syniadau aml-gyfrwng o straeon posib. Mae ambell stori gyffrous iawn ar y ffordd – ond newn ni ddim dweud rhagor, am nawr!

 

Dwi wedi mwynhau fy wythnos o ymweliadau, a gyda chymaint o bethau amrywiol yn digwydd yn y sir brysur hon drwy’r flwyddyn, dwi’n edrych ymlaen at eich gweld chi mewn digwyddiad, sgrym straeon neu gaffi yn fuan.

Os hoffech gysylltu â mi am fwy o wybodaeth ynglŷn â straeon, neu eisiau cymorth, mae croeso chi ffonio 01570 423549 neu ebostio daniel@bro360.cymru

 

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)