Guto a Dan ar grwydr o gwmpas y caffis

I drafod eich gwefan, cael cyngor am gyfryngau neu roi gw’bod am stori, ewch am baned gyda’r bois!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Er ein bod yn datblygu platfformau digidol y gallwch gyfrannu atynt o adre, ar eich sgrîn, heb ddod i gyswllt ’da neb, ry’n ni’n gw’bod bod siarad wyneb yn wyneb yn amhrisiadwy.

Dyna’r cyfle gorau i drafod syniadau, gofyn cwestiynau a dangos a deall.

O heddiw ymlaen bydd Guto a Dan yn ymweld â rhai o gaffis y bröydd i roi cyfle i chi ddod i gwrdd â nhw am sgwrs.

Efallai yr hoffech wybod mwy am y prosiect a’r datblygiadau yn eich bro… neu efallai bod gennych sgŵp o stori ac ry’ch chi am wybod beth yw’r ffordd orau o’i chyhoeddi… neu o bosib ry’ch chi angen ychydig bach o gyngor technegol am y wefan fro neu gyfryngau cymdeithasol.

Beth bynnag sydd ei angen arnoch (o fewn rheswm!) mae Guto a Dan ar gael i’ch helpu.

Does dim angen trefnu apwyntiad – jest cewch i’ch caffi lleol ar yr amseroedd isod a chwiliwch amdanyn nhw!

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)