Holi Gohebydd Chwaraeon Lleol newydd BroAber360!

Dod i adnabod Gruff Huw – ffan sydd bellach yn gohebu ar gemau Clwb Pêl-droed Aberystwyth

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Llun o gêm Aberystwyth gan Gruffydd Huw

Er mai prin yw’r gemau chwaraeon lleol, a phrinnach byth yw’r cyfle i gefnogwyr wylio ar yr ystlys, mae un dyn ifanc o Aberystwyth wedi cydio yn y cyfle i wylio ei hoff dîm a dod â’r gêm yn fyw i’r gynulleidfa gartre’.

Bro360 sy’n holi Gruff Huw am y profiad annisgwyl o fynd i wylio Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn ddiweddar, a dod yn Ohebydd Chwaraeon Lleol i BroAber360

 

Nawr te, Gruff, faint o ffan pêl-droed wyt ti?

Dwi’n ffan pêl-droed enfawr – dwi ddim yn gallu cael digon ohono fe!

 

Shwt brofiad oedd bod ar ochr y cae yn gohebu dros y penwythnos, heb gefnogwyr eraill yno?

Profiad od iawn ond roedd hefyd yn fraint gallu gohebu ar y gêm.

 

Colled yn erbyn Met Caerdydd oedd y gêm gynta i ti ohebu ohoni. Beth oedd y peth mwya cyffrous ddigwyddodd?

Y 10 munud olaf gyda’r Met yn sgorio 2 gôl i ennill y gêm.

 

Sut lwyddaist ti i gael llun mor dda?

Cymres i lun o bron pob un cornel felly roedd hi ond yn fater o ddewis yr un gorau!

 

Beth yw’r peth gorau am ddilyn CPD Aberystwyth?

Gweld gymaint o chwaraewyr ifanc yn chwarae a gallu mynd yno ar nos Wener gyda fy ffrindiau.

 

Pam wyt ti’n meddwl ei bod hi’n bwysig rhoi sylw i gemau pêl-droed lleol?

Os na fydd pobl yn gwylio timau lleol yn chwarae mi fyddant yn cau lawr ac mi fydd rhan o’r gymuned yn cael ei golli.

 

Dyma 2 adroddiad gêm diweddaraf Gruff Huw i BroAber360:

Aber yn boddi wrth ymyl y lan

Gruffudd Huw

Aberystwyth 2-3 Met Caerdydd (12/09/2020)
Aber-Fflint

Buddugoliaeth Gyntaf Aber

Gruffudd Huw

Aberystwyth 3 – 1 Y Fflint (18/09/2020)

 

Cyfle i chi hefyd

Os hoffech fynd i weld eich hoff dîm chwaraeon (pan fyddan nhw’n ôl yn chwarae!) a chreu adroddiadau fel Gruff, neu fideos uchafbwyntiau fel Begw a Now, neu gyfweliadau â chefnogwyr, neu ddiweddariadau byw ar Insta neu Twitter – cysylltwch â post@bro360.cymru i ddarganfod mwy!

 

Gyda’n gilydd, gallwn roi sylw haeddiannol i chwaraeon lleol ar y lefel bwysicaf un – llawr gwlad.