
Chwarae rygbi tag gan fod Dats gytre

Paentio yn yr ardd = dim angen golchi lan!

Tref sy’n chwarae ŵy ar lwy ychydig yn wahanol 🍓

Joio ar y trampolîn!

Picnic ar y trampolîn (peidiwch dechrau neidio!)

Gêm o suddo neu arnofio

Cwrs antur Darowen! (4 munud yw’r record!)

Dysgu sgiliau hanfodol cefn gwlad – dringo coed!

I rieni sy’n casáu llanast – paentio gyda dŵr!

Cwrs antur DIY

Tynnu lluniau gyda sialc

Mwy o sialc…

Lot fowr o sialc!

Bob ar y si-so yn yr haul yn Aber

Plannu ffa!

Troi’r garafan yn dŷ gwydr!

Golchi car bach

Golchi car mowr! Pryd mae hyn yn troi yn slave labour?!

Gêm newydd Llangwyryfon – cuddio a sblasho!

Paentio celfi

A’r gore i gyd – Iari yn adeiladu ramp sgwter i’w hunan! Addysg 👌
Mae plant Cymru wedi bod yn mwynhau’r haul yn ystod eu wythnos gynta adre achos y coronafeirws.
Dyma luniau a gasglwyd ar grŵp Facebook ‘Cer-o-na feirws – ni’n ’neud y pethau positif’ yr wythnos hon, o’r plant yn bod yn greadigol wrth chwarae gemau newydd a hen!