Sut gall Caernarfon360 fod o fudd i’r dre’?

BOBOL CAERNARFON! Rhannwch eich syniadau, er mwyn i’ch gwefan fro weithio i chi

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Stryd y Plas – Llun Hwb Caernarfon

Bro360: Y weledigaeth?

Rhoi llwyfan i bob bro yng Nghymru greu a rhannu eu straeon lleol eu hunain.

Y cyfle ‘wan?

Mae gan gymunedau yn ardal Arfon, a gogledd Ceredigion, gyfle i fanteisio ar brosiect peilot Bro360 i greu a siapio eich gwefan fro eich hunan. Mae’r cyfle i sefydlu pethau yn yr ardaloedd hyn ar gael tan fis Mawrth 2022.

Sut mae manteisio?

Trwy gyfrannu at ddatblygu’ch gwefan fro chi. Gwefan all grynhoi’r clytwaith o elfennau sy’n ffurfio’ch cymuned – o ddathliadau a digwyddiadau i’ch syniadau a’ch pryderon, y bobol leol…

Pwy sydd ei angen?

Pobol leol, sydd â brwdfrydedd i rannu pethau sy’n bwysig i chi’n lleol. Nid ’darparu’ a chreu ar eich rhan yw’r nod – ond rhoi’r gallu i chi, BAWB yn eich bro, i greu a rhannu eich straeon, eich syniadau a’ch dyheadau.

Beth sydd ei angen ‘wan?

Eich syniadau chi.

Busnesau, ymgyrchoedd, newyddion, digwyddiadau digidol, lle i grynhoi hanes pob mudiad… mae cymaint yn bosib!

Er mwyn i ni helpu cymuned Caernarfon i fanteisio ar eich gwefan straeon lleol (Caernarfon360), ry’n ni am glywed eich syniadau chi am y potensial…

  • Beth hoffech chi ei weld ar Caernarfon360?
  • Pa fylchau all gwefan fro ei llenwi yng Nghaernarfon? Beth sydd ei angen?
  • Sut gall defnyddio’r we a chyfryngau newydd ategu ffordd o fyw cymuned dre’?

Rhowch wybod yn y sylwadau isod (pwyswch Mewngofnodi / Ymuno i greu cyfrif), neu ebostiwch post@bro360.cymru.