Dyma gipolwg ar rai o straeon gorau’r gwefannau bro yr wythnos hon…
Fideo yr wythnos
Heb os, fideo Steffan Nutting ar BroAber360 sy’n mynd â hi. Mae’n cyfweld â’i fam, Mair, ar ôl iddi ddenu sylw Peter Crouch a Match of the Day, gyda’i champ o gicio pêl trwy ffenest velux y tŷ a’i dathliad arbennig!
Darn barn yr wythnos
Mae llawer o sôn am y gweithwyr sydd allan yna’n parhau i weithio er mwyn “cadw’r wlad i fynd” yn ystod y cyfnod anodd yma. Ac un o’r rheiny yw’r ffermwyr – dyma ddarn barn gan Mari Wyn Hughes ar DyffrynNantlle360, sy’n esbonio sut mae bywyd wedi newid ar y fferm yn yr wythnosau diwethaf.
“Cofiwch am y rhai sydd wedi cadw’r wlad i fynd” ar ôl yr argyfwng yma
Stori mwya poblogaidd yr wythnos
Dyma stori sy’n dangos gwerth gohebu lleol – Dylan o Clonc360 oedd y cynta i adrodd bod tân mawr ar safle un o brif fusnesau tre’ Llanbed.
Llun yr wythnos
Dyma lun sy’n adrodd cyfrolau – gwelyau yn lle cyrtiau y tu fewn i Ganolfan Hamdden Plascrug.
Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn diolch am ‘ymdrechion rhyfeddol’ cymunedau lleol
Newyddion bro yr wythnos
Y diweddaraf yn y stori am ladrata yn rhai o gapeli Caernarfon – ar Caernarfon360.
Arestio chwech ar amheuaeth o ddwyn o Gapel Salem a Chapel Caersalem
Blog yr wythnos
Beicio o Ecwador nôl i Gymru oedd cynllun Rhodri Price o Lanbed a’i gefnder Pedr. Ond daeth pethau i stop yn sydyn. Dyma’r hanes yn ei eiriau e’ ar Clonc360.
Papur bro yr wythnos
Er nad ‘prosiect papurau bro’ yw Bro360, rydym wedi camu i’r adwy i helpu rhai o bapurau Cymru barhau i gyhoeddi (yn ddigidol) dros y cyfnod yma. Y diweddara o’r 25 papur i gyhoeddi yw’r Blewyn Glas yn Nyffryn Dyfi, ac maent wedi newid eu henw i gyd-fynd â’r cyfnod – da.