Pam ffwdanu dysgu am ein hanes lleol?

Erthyglau a fideos hanes bro gan bobol leol yn profi’n rhyfeddol o boblogaidd

Lowri Jones
gan Lowri Jones
1

Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael lle blaenllaw yn y Cwricwlwm newydd.

Ond sut fyddech chi’n dewis pa ddarnau o hanes i’w hastudio? Mae cymaint o arwyr, trasiedïau a llwyddiannau proffil uchel gan Gymru yn ei hanes, byddai’n hawdd anghofio am yr hanesion lleol.

Mae gwefannau lleol Bro360 yn cynnig cyfle i rannu’r straeon hynny’n sy’n berthnasol i’n pentref, plwy neu fro. Yr hanesion na fyddai fel rheol yn cael sylw ar gwricwlwm neu mewn cyhoeddiad cenedlaethol. Ond sy’n hanesion pwysig sydd wedi siapio’r gymdeithas rydym yn byw ynddi.

Cyflwyno hanes lleol trwy fideo i gyrraedd cynulleidfa newydd

Ers i’r 6 gwefan fro yn ardaloedd Arfon a Cheredigion fynd yn fyw, mae pobol leol wedi cymryd at y cyfle i rannu straeon am hanesion bro sy’n bwysig iddyn nhw: Hanes milwr o Aberystwyth a oroesodd y rhyfel dim ond i farw o Ffliw Sbaen; fideos am sut mae tirwedd a diwydiant wedi plethu i greu dyffrynnoedd Arfon fel maen nhw heddiw; atgofion o gymuned a ddiflannodd; hanes enwau llefydd Cymraeg… a llawer mwy.

Ac mae’r fideos hanes lleol, a grëwyd yn arbennig ar gyfer lansiadau digidol y gwefannau ym mis Mehefin, wedi cael eu gwylio filoedd o weithiau, ac yn rhyfeddol o boblogaidd. Mae ceisiadau wedi cyrraedd eisoes i gael mwy o fideo am fwy o hanesion… felly ein nod yw eich helpu chi i’w creu!

Dyma grynhoi ambell un o’r hanesion bro sydd wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar:

 

3 fideo hanes bro

Hanes sychu Dyffryn Nantlle, gan John Dilwyn

Hanes llechi cerfiedig Dyffryn Ogwen – gan Deri Tomos

 

Hanes tirwedd Dyffryn Ogwen – gan Ieuan Wyn

 

6 o straeon hanes bro, o Arfon a Cheredigion

 

Pandemig y Russian Flu a’i effaith ar bentrefi’r chwareli

Elin Tomos

Astudiaeth o ganlyniad y pla ‘Influenza’ ar bentrefi Dyffryn Peris.

 

 

Aberystwyth a Ffliw Sbaen 1918/9

Aled Morgan Hughes

Aled Morgan Hughes sy’n olrhain ymateb Aberystwyth i her Ffliw Sbaen 1918/9

 

Tafarn y Black Boy – ddylai’r enw newid?

Gohebydd Golwg360

Mae rhai pobol wedi gofyn am ailenwi un o dafarndai enwoca’ Cymru.

 

Cofio ymweliad y Cyn-Arlywydd â Thafarn y Ram

Dylan Lewis

Jimmy Carter yn galw am ginio gyda Wynne a Mary 25 mlynedd yn ôl.

 

Dan Gysgod Mynydd Epynt

Elin Mair Mabbutt

Cofio Epynt – Colli Cymdeithas

 

Rhaid Gwarchod Enwau Lleoedd

Ieuan Wyn

Sut mae gwarchod enwau lleoedd lleol?

 

Oes ’na hanes difyr i’ch cartre neu’ch pentre chi? Pwy oedd yr arwyr lleol sy’n haeddu sylw?

Crëwch stori, fideo neu flog heddiw, i rannu’r hanes â phobol eich bro!

[Sut? Mewngofnodi neu Ymuno i greu cyfrif, a phwyso’r botwm Creu.]