Oes rhywun arall wedi sylwi bod y we yn llawn fideos, posts a straeon cadarnhaol ar hyn o bryd?
Mae pobol wedi troi at y we yn y cyfnod sa’ draw (neu’r clo mawr – beth y’ch chi’n ei alw?) er mwyn llenwi’r bwlch yn ein cymdeithas.
Hawdd dilyn dy ddiddordeb
Yn gweld eisiau gigs? Gyda phartïon gwrando Sôn am Sîn, Gŵyl Ynysu Y Selar a ffrydiau byw artistiaid unigol o’u ’stafelloedd gwely, ry’n ni’r ffans yn gallu cael ein ffics cerddorol.
Ac yn ôl stori ar BroAber360 neithiwr, bydd Gigs CARTREF Gwaelod yn dechrau ar gyfres o berfformiadau byw ddydd Sul yma.
Mae Merched y Wawr wedi troi at grwpiau Facebook i gasglu lluniau am rai o ddiddordebau’r aelodau (a darpar aelodau, a dynion hyd yn oed!) Rhannwch luniau eich brechdanau fish fingers ar Curo Corona’n Coginio, neu lun o’ch creadigaeth wlanog ddiweddaraf ar Curo‘r Corona’n Crefftio.
Ac wrth gwrs mae syniad gwreiddiol Catrin Toffoc o greu grŵp Facebook sy’n annog pawb i ganu eu hoff ganeuon yn Côr-ona wedi bod yn ffordd wych o gadw holl gantorion Cymru yn brysur, mewn adeg pan ry’n ni’n gweld eisiau ymarferion ein corau go iawn.
Beth am ble ni’n byw?
Mewn bywyd go iawn (a’r normal newydd, beth bynnag fydd hwnnw), mae cysylltiad agos rhwng ein diddordebau a’n bro. Awn i ganu gyda’r côr lleol. Awn i weiddi’n groch ar ystlys y clwb rygbi lawr y rhewl. Awn i wario’n harian gyda chigydd y dre, a dathlwn lwyddiannau ein Clwb Ffermwyr Ifanc lleol.
Ar ben ein diddordebau, mae ein bro yn dal yn bwysig i ni. A fyddai’n grêt gallu gweld y cyfan sy’n cael ei greu’n lleol mewn un man?
Dyna botensial dy wefan fro – bod yn lle i dynnu popeth difyr o’r ardal ynghyd. Bod yn lle i ti a dy gymydog rannu straeon, fideos, blogs a lluniau am yr hyn sydd o ddiddordeb i ti – nawr, yn ystod y cyfnod rhyfedd yma, ac yn y dyfodol.
Pedair wythnos fawr o weithgarwch
Fis nesa, bydd 4 o’r gwefannau bro sydd wedi’u creu dan arweiniad Bro360 yn brysurach nag arfer, gydag wythnos o weithgarwch amrywiol ar bob un. O fideos ffitrwydd i wersi cynganeddu i bencampwriaeth darts lleol – daw’r cyfan gan bobol y bröydd. Achos chi sy’n creu ar eich gwefan fro – dyna sy’ n arbennig amdani.
Bydd cyfle yn ystod yr wythnos i chi gyfrannu – trwy rannu lluniau o’ch bywyd yn ystod y coronafeirws, ychwanegu at restr dafodiaith eich bro, cyhoeddi stori, neu rannu fideos ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnod #EinBro.
- 1-5 Mehefin – Wythnos DyffrynNantlle360
- 8-12 Mehefin – Wythnos BroAber360
- 15-19 Mehefin – Wythnos Ogwen360
- 22-26 Mehefin – Wythnos Clonc360
Cadwch lygad ar Bro360.cymru i weld amserlenni’r gweithgareddau’n cael eu cyhoeddi bob wythnos, a chadwch lygad ar eich gwefan fro i weld y datblygiadau technolegol diweddaraf arni!
Cysylltwch â post@bro360.cymru os oes gennych syniad i’w gyfrannu – neu ewch amdani’n syth i greu!