Ddeg diwrnod i heddiw, byddai strydoedd (a dwy sgwâr a thafarndai) Tregaron yn llawn hyd y twret, a phawb yn mwynhau gŵyl gerddoriaeth Tregaroc.
Ond cyn i’r trefnwyr gyhoeddi’r lein-yp daeth y cyfnod ’sa draw, ac roedd hi’n anochel y byddai’r ŵyl yn cael ei gohirio am eleni. Ac mae’n amlwg i bawb y bydd hi’n dipyn tawelach yn y dre ym mis Awst nag y dylsai fod.
Nos Lun, cynhaliodd Bro360 sesiwn ddigidol gyda rhai o arweinwyr Tregaron a’r cylch, i drafod y posibilrwydd o greu rhywbeth newydd i’r ardal.
Tregaron yw’r lle diweddaraf i gael cynnig cydweithio â Bro360 i greu gwefan straeon lleol. Mae 6 gwefan eisoes wedi’u sefydlu’n rhan o’r rhwydwaith, sef pedair gwefan yn Arfon, a dwy yng Ngheredigion:
- Clonc360 yn Llanbed a’r cylch
- BroAber360 ar gyfer gogledd Ceredigion (o Dre’r Ddôl i Lanrhystud, o Aberystwyth i Gwmystwyth).
Bwrw mlaen i greu gwefan fro
Fe fuodd y criw yn mapio eu bro (a chafwyd sgwrs ddigon bywiog am ba bentrefi sy’n rhan o ardal Tregaron a pha rai sy’ ddim!) Buon ni hefyd yn amlygu’r holl gyfryngau digidol sydd ar gael i ni, ac sy’n cynnig posibiliadau i greu straeon cwbwl wahanol i’r hyn fyddai ar gael mewn print.
Ac fe ddechreuon ni ddychmygu’r dyfodol a thrafod syniadau am sut gallai gwefan fro helpu mudiadau a’r economi leol (yn enwedig busnesau bach) i oroesi ac ailgydio mewn pethau pan fyddwn yn cyrraedd y ‘normal newydd’ ar ôl Covid-19.
Egni’n cael ei ddargyfeirio
Roedd hi’n teimlo fel pe bai’r egni a fyddai fel arfer yn mynd i greu gweithgareddau lleol fel Tregaroc wedi’i ddargyfeirio, a bod y criw yn frwd i gyd-greu llwyfan digidol difyr, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r ardal am flynyddoedd i ddod.
Ac fel dywedodd rhywun rhywbryd, “yr ynni cynaliadwy mwya dibynadwy yw bobol”.
Mae’r gymuned o gwmpas tre’ leiaf Ceredigion yn adnabyddus am egni’r bobol leol, a’u gallu i glatsho bant i greu er mwyn taclo unrhyw broblem neu wireddu potensial.
Wedi hen arfer â chreu
Mae Tregaroc yn enghraifft amlwg o hynny. Gwelodd 5 merch ifanc lleol fwlch am ŵyl fyddai’n dod â cherddoriaeth Gymraeg gyfoes i ganol cefen gwlad, ac erbyn hyn mae Tregaroc yn ddigwyddiad y mae pobol ar draws y sir yn edrych ymlaen ato bob blwyddyn.
Criw arall sy’n creu cyfleoedd i ateb anghenion yw Campau Caron. Mae’r fenter wedi cyfuno tirwedd ddelfrydol a diddordebau pobol y fro i gynnal digwyddiadau chwaraeon amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n rhoi hwb i iechyd yn ogystal ag economi.
Mae yno fudiadau yn y cylch sy’n parhau i dyfu gydag egni’r ifanc hefyd. Dim ond blwyddyn sydd ers i CFfI Lledrod gynnal Rali’r Sir, mae côr Merched Soar a pharti canu Bois y Rhedyn yn llawn egni a phrysurdeb, ac mae Merched y Wawr Bronant newydd fuddsoddi mewn offer digidol wrth ddathlu pen-blwydd yn 50 oed, i enwi ond rhai.
Nesaf – sefydlu’r wefan
Bydd sesiwn drafod nesa i griw cylch Tregaron yn cael ei chynnal ar Zoom ar nos Lun 1 Mehefin am 8pm.
Croeso i bawb sy’n perthyn i’r fro – o Landdewi i Langeithio, o Benuwch i Bontrhydygroes. Dewch â’r un brwdfrydedd gyda chi i wneud y penderfyniadau mawr, gan gynnwys dewis enw eich gwefan newydd!
Cysylltwch â danieljohnson@golwg.com i gael y ddolen a’r cyfrinair i ymuno.