Dylanwad bro Caron ar Brif Ddramodydd Eisteddfod T

Mawr yw dyled Nest Jenkins i’r ysgol a’r capel am y cyfleoedd a’r gefnogaeth mae hi wedi ei dderbyn.

Lleu Bleddyn
gan Lleu Bleddyn

Yn ôl Prif Ddramodydd Eisteddfod T eleni mawr yw ei dyled i fro Caron am y cyfleoedd a’r gefnogaeth mae hi wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd gan “gymuned glos” yr ardal.

Datgelwyd mai Nest Jenkins oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda’r beirniad, Hanna Jarman, a’r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno dros y we o’u cartrefi.

Roedd 19 wedi cystadlu eleni a’r dasg oedd creu monolog dim hirach na tair munud ar gyfer y llwyfan neu’r sgrîn.

“Calon y pentref”

Mewn cyfweliad arbennig â golwg360 ar drothwy sesiwn i sefydlu gwefan fro newydd sbon i Dregaron a’r cylch, dywedodd Nest Jenkins: “Rwy’n ddyledus iawn i Ysgol Gynradd Lledrod am yr holl gyfleoedd a’r gefnogaeth ers yn bedair oed.

“Er mai dim ond rhyw bymtheg o blant oedd yn yr ysgol gyfan, doedd dim un ohonom dan anfantais o gwbl dan ofal Miss Morgan, y brifathrawes wych.

“Yr ysgol oedd calon y pentref ac roedd bod yn rhan o gymuned mor glos yn bwysig iawn i mi.

“Wedi gadael yr ysgol gynradd, ces fynd i’r ‘ysgol fowr’ – nad oedd mewn gwirionedd yn fawr o gwbl gyda rhyw dri chant o blant yno.

“Ond, bu fy nghyfnod yn Ysgol Uwchradd Tregaron yn gyfnod hapus iawn.

“Ergyd fawr i mi oedd gorfod gadael oherwydd i’r chweched gau gan orfod gadael teulu mawr Tregaron.”

“Meithrin fy nghariad at befformio”

Fel nifer o bobol o’r ardal bu gweithgarwch y capel yr un mor ddylanwadol ar fagwraeth Nest â’r ysgol.

“Dyma le’r oeddwn yn mynd i’r Ysgol Sul yn wythnosol”, meddai.

“Yn flynyddol, cynhelir Cwrdd Bach i blant Lledrod a heb os, dyma’r llwyfan perffaith i feithrin fy nghariad at berfformio!

“Mae’n wir i ddweud bod perfformio o flaen cynulleidfa gyfarwydd yn dipyn mwy o her!”

Mae Nest bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl cyfod fel Llywydd Cymdeithas Gymraeg y Brifysgol mae Nest yn parhau i fod yn berson prysur a gweithgar.

Gyda’i thrydedd flwyddyn wedi’i thorri’n fyr achos y pandemig, mae Nest a’i ffrind, Jacob, wedi dechrau podlediad newydd o’r enw ‘Cracio’r Corona’.

Ei gobaith yn y dyfodol yw mentro i fyd darlledu, gan ddilyn cwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Darlledu y flwyddyn nesaf.

Gwyliwch ddetholiad arbennig gan Cadi Beaufort o Ffair-rhos o waith buddugol Nest:

Roedd y beirniad Hanna Jarman wedi mwynhau’r elfen o fenyw gryf oedd yn y gwaith buddugol.

“Dwi’n ffan mawr o gymeriadau benywaidd ‘anhoffus’, menywod sy’n herio sut ma’ menyw fod i fihafio, siarad a theimlo.

Roedd y darn yn soffistigedig iawn. Cymeriad cryf a doniol.”

Dyma’r foment pan glywodd Nest Jenkins mai hi yw Prif Ddramodydd Eisteddfod T:

Prif Ddramodydd Eisteddfod T 2020

Y foment pan glywodd Nest Jenkins mai hi yw Prif Ddramodwr Eisteddfod T ?In case you missed it…the moment Nest Jenkins was named Eisteddfod T Winning Playwright!

Posted by Eisteddfod yr Urdd on Wednesday, 27 May 2020

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)