Ein bro, ar DyffrynNantlle360

Lansiad digidol gwefan fro Dyffryn Nantlle yn cynnig fideos a sesiynau byw, cwis, a her i bobol leol gasglu a chyhoeddi eu corona-luniau…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae gan bobol Dyffryn Nantlle ffordd newydd o rannu eu straeon. Croeso i DyffrynNantlle360!

Yr wythnos hon, mae llu o bethau’n cael sylw ar DyffrynNantlle360.cymru, i ddangos sut gall gwefan fro gryfhau’r gymuned leol.

Bydd pobol leol hefyd yn dangos sut gallwn ddefnyddio’r cyfryngau digidol yn greadigol yn y Gymraeg.

Her casglu corona-luniau

Un o’r pethau gorau am y wefan yw mai chi – bobol leol – sy’n creu.

Os ydych chi’n byw yn y Dyffryn, ymunwch yn yr hwyl!

Yr her yr wythnos hon yw cyhoeddi eich 3 llun sy’n darlunio cyfnod Covid-19 i chi. Mae’n gyfle i gasglu cofnod gan bobol Dyffryn Nantlle o’r adeg ryfedd hon a’r ffordd mae’r cyfnod clo wedi effeithio ar eich bywyd.

  1. ewch i DyffrynNantlle360.cymru a phwyso’r botwm Ymuno i greu cyfrif
  2. ewch i Creu > Oriel a llwythwch 3 llun sy’n darlunio cyfnod Covid-19 i chi
  3. pwyswch y botwm cyhoeddi!

 

Mae pobol ifanc y Dyffryn wedi creu fideo i ddangos i bawb sut gallwch chi fanteisio ar eich lle ar y we!

Sesiynau gan bobol y fro

Ewch ar Ffrwd Diweddaraf y wefan ddydd Gwener os am gael eich diddanu gan amryw o bobol y Dyffryn:

2pm – Darlunio gydag Angharad Tomos

3pm – ‘Clwb Sblash’ i’r plant gyda Trey McCain

4pm – Hanes Chwarel Dorothea gan Treftadaeth Disylw

5pm – Gwers goginio gan Cacennau Meinir

5.30pm – Sesiwn Gelf gan Lleucu Non

6pm – Sesiwn farddoniaeth gan Carwyn Eckley

6.30pm – Hanes #EinBro gan John Dilwyn Williams

7pm – Cwis #EinBro Dyffryn Nantlle gan yr hogia lleol

8pm – Caneuon #EinBro gan artistiaid y Dyffryn