Dychmygu cymdeithas yn Ogwen a Nantlle ar ôl Covid

Dwy sesiwn Prosiect Fory yn Arfon dros yr wythnos nesa

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mynd nôl i fel oedd hi (neu waeth)? Neu greu dyfodol gwell i ni’n hunain?

P’un fydd hi?

Mae Prosiect Fory yn eich gwahodd i drafod a dychmygu sut gymdeithas ry’n ni am fyw ynddi ar ôl yr argyfwng.

Cynhelir sesiwn i bobol leol Dyffryn Ogwen dros Zoom am 7pm nos Iau 20 Awst, mewn cydweithrediad ag Ogwen360, Partneriaeth Ogwen a Byw a Bod. A bydd modd i bobol leol Dyffryn Nantlle ddweud eu dweud nos Lun 24 Awst, ar y cyd â changen leol Cymdeithas yr Iaith.

Tri chwestiwn sylfaenol

Nid ‘ymgynghoriad’ yw hwn. Sgwrs (wel, sgyrsiau – lot ohonyn nhw) llawr gwlad sy’n lle i bawb ddweud eu barn. Ein cyfle ni, y bobol sy’n byw a gweithio yn ein cymunedau, i adnabod beth sydd angen ei wneud, yn hytrach na chael rhywun yn cynllunio ar ein rhan.

Gall unrhyw un gynnal sgwrs Prosiect Fory yn eich bro. Ar ôl cynnull criw (ar zoom neu go iawn) a gosod yr egwyddorion sylfaenol (cynnwys pawb, a does dim atebion cywir nac anghywir) mae’r fformat yn syml. Tri chwestiwn sydd i’w trafod, yn y drefn yma:

  1. Ble’ oedden ni cyn ymyrraeth y feirws?
  2. Beth yw’r gwaethaf all ddigwydd wedi i’r argyfwng glirio?
  3. Beth yw’r gorau all ddigwydd? Pa gyfleoedd mae’r ymyrraeth yn eu gwneud yn bosibilrwydd?

Gwerth y sgyrsiau

Mae’r syniadau a’r dyheadau ddaw mas o’r sgwrs yn bwysig. Gallant arwain at weithredu llawr gwlad… a gallant, gyda’i gilydd, gael eu crynhoi’n ganfyddiadau i’w pasio ymlaen i’r awdurdodau, os byddwch chi’n dymuno.

Ond mae mwy o werth na hynny. Bydd y sgwrs ynddi’i hun yn rhoi’r grym i bobol siapio eu dyfodol. Yn rhoi lle iddyn nhw gyd-drafod ac adnabod eu hanghenion a’u potensial eu hunain. Yn plannu’r arfer o gwestiynu, yn hytrach na derbyn a disgwyl i rywun arall ddatrys pethau.

A bydd drosglwyddo’r cyfrifoldeb o gynnal sesiwn i eraill yn rhaeadru’r doniau arwain sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal cymdeithas.

Sut mae ymuno?

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn Gymraeg, ac mae croeso i unrhyw un sy’n byw yn Nyffryn Ogwen neu Ddyffryn Nantlle ymuno yn y ddwy nesa’. Cysylltwch â lowrijones@golwg.com i gael dolen Zoom.