Er gwaetha’r ffaith bod pawb yn styc yn tŷ erbyn hyn, mae’n bwysig ein bod yn cadw’n brysur, yn cadw cysylltiad, ac yn cadw’r hwyl!
Mae’r tymor pêl-droed ar stop ar hyn o bryd, a’r chwaraewyr a’r cefnogwyr wedi methu gweld ei gilydd ers chydig wythnosau.
Ond, mae clybiau pêl-droed Nantlle Vale a Talysarn Celts wedi bod yn greadigol iawn ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn cadw cysylltiad yn y cyfnod od ’ma.
Mae rhai o chwaraewyr Nantlle Vale wedi bod yn ymarfer eu sgiliau pêl-droed gyda phapur tŷ bach yn y tŷ, tra bod Talysarn Celts wedi bod yn dymuno pen-blwydd hapus i un o’u cefnogwyr ifanc, gan ei fod yn methu gwylio ei hoff dîm yn chwarae ar hyn o bryd:
Diolch anferthol i Pete a’r hogia am neud y fideo spesial ma i Mabon heddiw – wedi gwneud ei ddiwrnod o!! Diolch hogia ⚽️?⚽️
Posted by CPD Talysarn Celts on Monday, 6 April 2020
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae’r ddau glwb wedi cwblhau her ‘tîm delfrydol’ DyffrynNantlle360 hefyd.
Cafodd cefnogwyr clybiau pêl-droed y Dyffryn y cyfle i ddewis rhai o’u hoff chwaraewyr sydd wedi cynrychioli eu tîm, cyn enwebu rhywun arall i gwblhau’r her.
Dyma oedd rhai o’r enwau mwyaf poblogaidd i ymddangos dros Nantlle Vale a Talysarn Celts:
CPD Nantlle Vale:
Gôl – Kev Davies
Amddiffyn – Chris Parry
Midffîld – Neil Thomas
Streicar – Dave Parry
Hyfforddwr – Dic Williams
Cefnogwr – Begw Elain/Mass Bwla
CPD Talysarn Celts:
Gôl – G Bwtch
Amddiffyn – Neil Jacks
Midffîld – Geoff Parry
Streicar – Gwyn Jones
Hyfforddwr – Ali Bach
Cefnogwr – Chick
Un o’r prif resymau i ni gychwyn yr her yma oedd i dynnu sylw at gyfrifon DyffrynNantlle360 ar gyfryngau cymdeithasol, ac i gynyddu’r niferoedd sy’n dilyn.
Mae’n bwysig iawn i unrhyw wefan gael tudalennau llwyddiannus ar y cyfryngau cymdeithasol, gan fod hyn yn galluogi’r straeon i gyrraedd mwy o bobl.
Un ‘stat’ sy’n pwysleisio pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol yw hwn: o’r 5 prif stori ar y gwefannau bro ers Ionawr, mae 71% o’r traffic wedi dod o’r cyfryngau cymdeithasol; ac o’r traffic hwnnw daeth 94% o Facebook!
Felly, helpwch DyffrynNantlle360 i gryfhau!
Dilynwch ar Twitter a hoffech y dudalen Facebook.
Ar ôl hoffi’r dudalen Facebook, cofiwch roi gwahoddiad i’ch ffrindiau!