Dros y misoedd diwetha’ mae aelodau criwiau llywio gwefannau Bro360, a chyfranwyr sgyrsiau Prosiect Fory, wedi bod yn rhannu eu barn a’u gwerthoedd.
Mewn ymgais i droi eu meddyliau nhw’n werthoedd y gall pawb ym mhob bro eu dilyn, a’u cyfleu ar y 7 gwefan fro, dyma gyflwyno ’maniffesto’ Bro360!
Mae’r syniadau’n amrywiol, a rhai’n fwy ysgafn na’i gilydd, ond mae’r cyfan yn cyfuno i ffurfio rhai o’r pethau sy’n bwysig er mwyn cynnal cymdeithas yn 2020.
Dyma gael cip ar ambell esiampl…
1. Prynu’n lleol
Mae cefnogaeth pobol i’w siopau lleol wedi cynyddu’n ddiweddar, gyda llawer yn dewis troi eu cefnau ar gwmnïau mawr a phenderfynu gwario eu punt yn lleol.
Mae’r coronafeirws wedi troi’r filltir sgwâr yn ganolbwynt i’n bywydau, ac wedi agor llygaid sawl un i bwysigrwydd cefnogi busnesau lleol. Bu Dylan Lewis wrthi’n ddiweddar yn annog trigolion Llanbed i brynu’n lleol, yn hytrach na phrynu gyda chwmnïau mawr y we.
Siopa’n lleol yn ystod y Cyfnod Atal
Mae trefniadau cwmnïau bwyd a diod ardal Arfon ar gyfer y cyfnod clo byr, ynghyd â busnesau Ceredigion, hefyd wedi’u diweddaru ar y gwefannau bro.
2. “Os ‘da chi ‘sho g’neud graffiti…. g’newch graffiti Cymraeg”
Dyna eiriau’r band Anweledig, sydd llawn mor berthnasol heddiw ag oedden nhw pan ryddhawyd y gân, Graffiti Cymraeg, yn 2001.
Wythnos ddiwetha’ aeth Ruth Jên ati i adfer ac ailbeintio mur Tryweryn, gan ddod â bywyd newydd i’r wal.
Yn ddiweddar, mae graffiti Cymraeg wedi ymddangos yn y tywod yn Nefyn ac mewn llechi yn Nantlle wrth i ymgyrchwyr fynnu eu “hawl i fyw adre.” Daw’r graffiti yn sgil cynnydd mewn gwerthiant tai fel tai haf yng Ngwynedd, a thu hwnt.
“Yr Hawl i Fyw Adra”, darllenwch erthygl Rhys Tudur yn Y Llanw – yn y siopau ddydd Iau, Hydref 15. pic.twitter.com/vUJ0TpPswo
— Llanw Llŷn (@LlanwLlyn) October 10, 2020
Ers i furiau Cofiwch Dryweryn ddechrau ymddangos ymhob twll a chornel o’r wlad mae gwneud graffiti, ei ’sgwennu mewn tywod, ei lefaru drwy lechi, neu unrhyw ddeunydd arall sydd wrth law, wedi datblygu i fod yn rhan pwysig o’n gallu i leisio barn.
3. Diolch
A hithau’n ddiwedd cyfnod y diolchgarwch, mae’n siŵr mai diolch yw un o’r gwerthoedd pwysicaf.
Yn ystod dechrau’r Cyfnod Clo cyntaf roedd diolch yn weithred wythnosol, dod allan i ben drws i glapio er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad i weithwyr allweddol. Daeth y weithred honno i ben gydag amser, ond mae yn ein natur ni i ddiolch, am bob math o bethau.
Beth am wneud un weithred fach o ddiolch heddiw? O bori trwy eich gwefan fro, gallwch bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff straeon. Mae’n neisiach na ‘like’ – mae’n ffordd fach syml o ddangos ein gwerthfawrogiad i bobol am gyfrannu at eu cymuned trwy rannu stori ar eu gwefan fro.
Pa werthoedd sy’n bwysig i chi?
Nodwch nhw yn y sylwadau!