Beth yw Sgrym Straeon?
Wel, un o syniadau Bro360 ar gyfer dod â phobol y fro at ei gilydd, i drafod syniadau am y straeon y gallent fod yn eu creu (neu’n annog pobol eraill i’w creu) ar eu gwefan fro. Wedi’r cyfan – gan y bobol leol mae’r arbenigedd am beth sydd mlaen yn lleol – chi sy’n clywed y sïon gynta’!
Maen nhw’n bethau grêt i’w cynnal mewn festri neu stafell gefn neuadd bentre, gyda phaned… ond tan bod modd gwneud hynny, fe wnawn ni setlo am Sgrym Straeon ar Zoom!
Cyn y sesiwn
- Trefnu amser a dyddiad sy’n addas i’ch cymuned chi.
- Gwahodd pobol leol i’r sesiwn – trigolion eich pentre / aelodau ‘criw llywio’ y wefan / cyfranogwyr a darpar-gyfranogwyr…
- Amserlenni cyfarfod Zoom, a rhannu’r manylion yn uniongyrchol gyda phawb.
- Meddwl am themâu posib i straeon. Gall hyn helpu i greu ffrâm ar gyfer denu llawer o straeon gwahanol ar bwnc amserol.
Ar y dechrau
Y ‘Sgryms straeon’ gorau yw’r rhai anffurfiol, sy’n rhoi’r cyfle i bawb gyfrannu a meddwl am syniadau posib, trafod gyda’i gilydd a ffurfio cynllun bach erbyn y diwedd.
- Ar ôl croesawu pawb i’r sesiwn anffurfiol, gallech esbonio nod y sesiwn, sef dod o hyd i straeon newydd, difyr y gallwch annog pobol leol i’w creu ar eich gwefan fro.
- Dangos y wefan a sut mae cyfrannu, os oes ‘na bobol newydd.
- Trafod unrhyw straeon difyr y mae pobol wedi’u gweld ar y wefan yn ddiweddar.
Y Sgrym Straeon
1. Gall y cwestiynau hyn (ac eraill) fod yn ffrâm ddefnyddiol i sbarduno sgwrs, ond does dim angen holi’r cyfan na chadw at unrhyw drefn – ewch gyda llif y sgwrs:
- Pwy yn lleol sy’n haeddu sylw? Pam?
(ee codi arian / heriau / gwobrau / teyrngedau / clywed gan leisiau newydd) - Oes rhywbeth rhyfedd / doniol wedi digwydd yma’n ddiweddar?
- Beth sy’n ei gwneud chi’n falch o’ch cymuned yn ddiweddar?
- Beth sy’n eich gwylltio chi neu’ch cymdogion ar y funud?
- Beth sydd angen ei ddathlu’n lleol?
(ee ymddeoliad, pen-blwydd clwb neu fusnes, dyddiad arwyddocaol yn lleol) - Beth mae eich clybiau/cymdeithasau wedi bod ei wneud?
- Beth y’n ni’n edrych mlaen i’w wneud ar ôl Covid?
2. Trafod themâu o straeon y gallech fynd ar eu hôl – beth sy’n amserol?
3. Trwy grynhoi’r syniadau, adnabod pwy sydd am greu pob stori, a phwy sy’n holi i bobol eraill greu
4. Trefnu’r sgrym straeon nesaf
5. Annog pawb i sgwrsio yn y grŵp Messenger / Whatsapp os oes syniadau’n codi yn y cyfamser.
Tips bach handi!
- Gwrando. Nid yn unig ar yr atebion i’r cwestiynau, ond ar y mân siarad wrth gyrraedd… bryd hynny’n aml bydd y straeon gorau’n ymddangos – heb i bobol sylweddoli!
- Peidio poeni am ddilyn ‘trefn’ y sesiwn. Ewch ar drywydd sgwarnogod yn naturiol!
- Annog pawb i ystyried pwy all fod yn creu, neu pwy sydd â chysylltiadau neu fwy o wybodaeth gyda phob syniad. Dyna’r bobol y bydd angen eu hysgogi i greu.
- Wrth drafod syniadau, trafod pa gyfrwng fyddai’n siwtio orau. Mae mwy na jest testun yn bosib – ystyriwch fideo, oriel luniau, blog byw, sgwrs fyw, podcast, cwis neu gyflwyno’r stori ar gyfryngau cymdeithasol.
- Cadw cofnod o’r syniadau wrth fynd (gore’i gyd os wnewch chi rannu’r jobyn yma gyda rhywun arall!) a nodi enwau pobol wrth y syniadau, gan rannu’r cofnod â phawb wedyn i’w hatgoffa.