Cyhoeddi 166 o straeon bro ym Mehefin – record!

Tîm Bro360 sy’n dewis eu hoff straeon ar y gwefannau bro ym mis Mehefin

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae dewis eich hoff straeon mas o 166 ohonyn nhw yn job.

Heb os, hon oedd y mis gorau ‘to am straeon lleol – diolch i chi sydd wedi bod wrthi’n creu.

Diolch i lansiadau digidol DyffrynNantlle360, Ogwen360, BroAber360 a Clonc360, buodd llwyth o bobol newydd yn creu fideos, blogs, orielau ac erthyglau ar gymaint o wahanol bethau.

Gyda mwy yn cael blas ar greu, a llawer mwy yn joio’r gwylio, y gwrando a’r darllen, mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.

Diolch i’r prysurdeb, roedd hi’n dipyn o job dewis un stori yn unig sy’n sefyll mas i ni o blith yr holl wefannau bro! Byddwch chi’n siŵr o anghytuno! Ond dyma ni’n rhoi cynnig arni:

Dewis Dan – profiad Mari Owen o fod yn Faer Aberystwyth, ar BroAber360

Fy mhrofiad o fod yn Faer!

Mari Owen

Fe ges i weld sawl agwedd wahanol ar Aberystwyth yn ystod fy mlwyddyn yn Faer y dre.

Dewis Guto – fideo John Dilwyn am hanes cynllun sychu’r Dyffryn, ar DyffrynNantlle360

Dewis Lleu – cofio ymweliad Jimmy Carter â Thafarn y Ram, ar Clonc360

Cofio ymweliad y Cyn-Arlywydd â Thafarn y Ram

Dylan Lewis

Jimmy Carter yn galw am ginio gyda Wynne a Mary 25 mlynedd yn ôl.

Dewis Lowri – profiadau amrywiol aelodau CFfI Dyffryn Nantlle o ddelio â’r cyfnod anodd yma

Y Covid a Ni

Gwen Th

Blas ar effaith yr ansicrwydd ar aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle.

 

Mae llwyth o straeon gwych eraill wedi’u cyhoeddi gennych chi – ewch i gael cip.

Heno, bydd pleidlais yn cael ei chyhoeddi ar dudalen Facebook eich gwefan fro lle bydd cyfle gennych i bleidleisio am eich hoff stori. Gobeithio na chewch chi gymaint o job dewis a ni!