Cyfle Caernarfon i gael lle ar y we

Mae Bro360 am fwrw ymlaen i helpu pobol dre’ i sefydlu gwefan a gwasanaeth digidol newydd.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’r amser wedi dod!

Mae Bro360 am fwrw ymlaen i helpu pobol dre’ i sefydlu gwefan a gwasanaeth digidol newydd i Gaernarfon fis nesa.

PAM NAWR?
Wel, byddai’n drueni i ddyffrynnoedd Nantlle, Ogwen a Peris gael manteisio ar y cynnig a bod Caernarfon yn cael ei gadael allan! O greu’r wefan hon dros y mis neu ddau nesa, gall Caernarfon fanteisio ar ddwy flynedd o gymorth staff Bro360 i wireddu’r weledigaeth a chynnal gwefan fywiog, diddorol a defnyddiol i chi.

SUT?
Y bwriad yw cyd-greu gwefan i un o drefi Cymreicia’ Cymru gyda’n gilydd, mewn awr a hanner!

PRYD?
5 Mawrth 2020 – yng nghaffi Galeri am 5.30pm

BETH?
Yn ôl yr ymchwil gyda thrigolion lleol yn ddiweddar, mae ‘na alw mawr am galendr digidol, lle i rannu hanesion y clybiau chwaraeon, platfform digidol ar gyfer newyddion Cymraeg, a lle i dynnu sylw at fusnesau lleol. Felly ’da ni am helpu i greu hynny (a mwy!) gyda chi.

Gwasanaeth ‘gan y bobol’ fydd hwn – trigolion dre’ fydd dweud wrthym sut wefan da chi am ei gweld, yn creu’r cynnwys, ac yn hyrwyddo eich digwyddiadau, a byddwn ni yn Bro360 ar gael i gynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant i sicrhau bod cymaint o bobol leol â phosib yn manteisio ar y cyfle i gael llais a hybu’r fro.

BETH FYDD ENW’R GWASANAETH?
Dyna un o’r pethau sydd angen eu penderfynu ar y noson – eich dewis chi fydd o! Cofi360? Caernarfon360? Dre360? Dywedwch chi…

Cynhelir ‘Creu gyda’r Cofis’ – sesiwn Bro360 i sefydlu gwasanaeth digidol newydd Caernarfon – am 5.30pm ar nos Iau 5 Mawrth 2020, yn y bar yn Galeri.

Dewch i wybod sut y gall y pethau sy’n bwysig i chi elwa, ac i osod eich stamp ar eich gwefan newydd!

Dweud eich bod yn dod.