gan
Lowri Jones
Mae creu ar dy wefan fro yn haws nag erioed!
Gelli greu fideo, oriel luniau, clip sain neu erthygl ysgrifenedig.
Dilyna’r 5 cam uchod, neu gwylia’r fideo yma i weld pa mor hawdd yw creu:
Tips handi:
- Mae angen o leiaf un llun ar bob stori. Ar ôl pwyso’r + i lanlwytho llun, pwysa ar y llun eto os am osod capsiwn neu dadogi’r llun i rywun arall.
- Cofia sgwennu brawddeg o gyflwyniad i dy stori, oherwydd bydd yn ymddangos gyda’r pennawd a’r llun ar hafan y wefan ac wrth rannu’r stori ar gyfryngau cymdeithasol.
- Os oes gen ti glip sain neu fideo, does dim angen cyfrif YouTube, Soundcloud neu debyg – jest llwytha’r clip i’r wefan trwy bwyto’r botwm +.
- Ar ôl pwyso’r botymau barod i’w gyhoeddi a cyhoeddi newidiadau, bydd tîm golygyddol dy wefan fro’n checio’r stori cyn ei chyhoeddi ar dy ran, felly paid â phoeni am dy sillafu!
Gyda’r opsiwn creu > digwyddiad, galli di gyfrannu digwyddiad i galendr dy wefan fro hefyd.
Mae’r cyfan yn hawdd!