Cenhadaeth Bro360 – ein rheswm dros fodoli

Nod cynllun Bro360 yw gwneud gwahaniaeth – i’n cymunedau, i newyddiaduraeth leol, i’r Gymraeg.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ein nod yw gwneud gwahaniaeth – i’n cymunedau, i newyddiaduraeth leol, i’r Gymraeg.

Mae Bro360 yn brosiect gan gwmni Golwg, sy’n gweithio gyda chymunedau mewn dwy ardal yng Nghymru (Arfon a gogledd Ceredigion) i’w galluogi i gynnal gwefannau straeon lleol bywiog.

Beth sy’n gwneud posibiliadau’r cynllun yma’n unigryw?

  • mae’r gwasanaethau digidol wedi’u gwreiddio yn y cymunedau lleol, trwy gynnwys pobol leol ym mhob elfen o’r cynllunio, datblygu, creu a chynnal;
  • mae’r gwasanaethau digidol yn dyrchafu’r ‘fro’ ddaearyddol, gan grynhoi gwahanol ddiddordebau ynghyd er mwyn hybu gweithgarwch yng nghymunedau cefn gwlad;
  • mae’r cynllun yn trosglwyddo’r sgiliau sydd eu hangen i greu cynnwys i’r bobol yn y bröydd (sy’n cynnwys sgiliau technegol, digidol a defnyddio’r cyfryngau digidol i wneud gwahaniaeth i’w broydd);
  • mae’r cynllun yn buddsoddi mewn newyddion lleol, â’r nod o wella’r diffyg democrataidd;
  • mae’r cynllun yn darganfod ffyrdd o roi platfform masnachol i fusnesau lleol, er mwyn gwella’r ecomoni gwledig;
  • Cymraeg fydd cynnwys y gwasanaethau digidol;
  • mae’r cynllun yn datblygu meddalwedd a methodoleg a all gael eu rhannu’n agored â chymunedau eraill ar ôl cyfnod y cynllun peilot;
  • mae’r cynllun yn hyrwyddo cydweithio rhwng y cyfryngau lleol iawn a gwasanaeth newyddion a gwybodaeth cenedlaethol;
  • mae’r cynllun yn anelu at greu fframwaith a all gynnal y gwasanaethau lleol a chenedlaethol yn y tymor hir.