Sut mae cefnogi busnesau lleol heb wario ffortiwn?

Y cyfryngau cymdeithasol, cynnig adborth, a chanmoliaeth – 10 ffordd o gefnogi busnesau bychain

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd
Facebook/Ultracomida

Ydych chi’n pendroni sut i gefnogi busnesau lleol heb wario ffortiwn?

Mae’n siŵr mai prynu eu cynnyrch yw’r ffordd orau o gefnogi unrhyw fusnes, ond ar ôl blwyddyn anodd fel hon, nid yw hynny bob amser yn bosib i bawb.

Mae digonedd o ffyrdd eraill i gefnogi busnesau lleol, a hynny heb wario ceiniog. Dyma ambell syniad:

1. Dilyn, hoffi, rhannu

Nid yw dilyn, hoffi a rhannu negeseuon busnesau bach ar gyfryngau cymdeithasol yn cymryd fawr mwy nag ychydig eiliadau, ond bydd helpu’r busnes i gyrraedd mwy o bobol. Yn y byd digidol, dyma’r ffordd rwyddaf a chyflymaf i gefnogi siopau a chrefftwyr lleol. Beth am adael sylwadau cadarnhaol ar eu negeseuon, neu dagio ffrindiau fyddai’n hoff o’r cynnyrch?

2. Argymell

Er gwaetha’ cryfder cyfryngau cymdeithasol, mae argymell cynnyrch i eraill ar lafar lawn mor effeithiol. Nid pawb, na phob busnes, sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

3. Cynnig adborth ar-lein

I’r gwrthwyneb, mae adborth ar-lein yn bwysig i fusnesau sydd newydd ddechrau – yn enwedig i grefftwyr sy’n defnyddio platfformau digidol i werthu eu cynnyrch. O adael adborth cadarnhaol, a thystio bod y cynnyrch a’r gwasanaeth yn safonol, bydd darpar brynwyr yn fwy parod i ymddiried yn y busnes a gwario’u harian.

4. Mynd i ddigwyddiadau

Wrth gwrs, nid yw hynny’n hawdd ar hyn o bryd, ond mae nifer o ffeiriau Nadolig yn digwydd ar-lein a gallwch ymuno â nhw er mwyn cefnogi’r stondinwyr. Mae nifer o fusnesau yn cynnal lansiadau a digwyddiadau dros Zoom, a gallwch ddangos cefnogaeth trwy fynychu – does dim rhaid chi hyd yn oed adael y tŷ. Pryd arall fydda hi’n dderbyniol mynychu ffair grefftau yn eich pyjamas?

5. Tynnu lluniau o’r cynnyrch

Ffordd effeithiol o gefnogi busnesau a chrefftwyr lleol yw drwy dynnu lluniau o’r cynnyrch rydych newydd ei brynu, a phostio’r llun ar eich cyfrifon cymdeithasol. Mae’n golygu bod eich dilynwyr chi’n clywed am y busnes, a thrwy dagio’r busnes neu ddefnyddio eu hashnod bydd y busnes yn gweld ac yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.

6. Tanysgrifio i gylchlythyr

Trwy danysgrifio i egylchlythyr busnesau byddwch yn cael gwybodaeth am fargeinion a chynnyrch newydd cyn neb arall. Cefnogwch fusnesau lleol drwy gadw mewn cysylltiad – mae’n rhad ac am ddim, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.

7. Canmol y busnes

Gyrrwch neges fach bersonol, dros e-bost, dros y cyfryngau cymdeithasol, drwy’r post, neu hyd yn oed gyda drudwy, yn canmol y busnes. Gall eich geiriau caredig fynd ymhell, a bydd yn golygu lot i fusnesau bach. Mae pawb wrth eu bodd yn derbyn gair o ganmoliaeth bob hyn a hyn, a bydd yn rhoi hyder i’r gwerthwyr a’r crefftwyr.

8. Gwisgo sticeri

Mae nifer o fusnesau, yn arbennig crefftwyr, yn cynnig sticeri am ddim i gwsmeriaid gyda’u harchebion. Rhowch y sticeri ar gefn eich laptop, ar gês eich gitâr, neu ar eich bag, er mwyn i eraill ddod i glywed am y busnesau hyn.

9. Dweud lle ‘da chi ‘di bod

Wrth ddweud wrth eraill eich bod wedi bod i siop hwn a hwn rydych chi’n hysbysebu’r busnes heb feddwl dim am y peth. Gallwch wneud hyn ar lafar, neu drwy ‘checio mewn’ i’r lleoliad ar Facebook, hyd yn oed!

10. Cynnig helpu

Nid oes gan fusnesau bach weithlu andros o fawr, gan amlaf, felly mae’n debyg y bydden nhw’n gwerthfawrogi unrhyw gymorth. Beth am gynnig gwirfoddoli, helpu’r busnes gyda chyfrifon cymdeithasol, neu gynnig danfon taflenni hyrwyddo?

Y Farchnad: busnesau bach eich bro mewn un man

Mae nifer o resymau dros siopa’n lleol a chefnogi busnesau eich ardal. Cymerwch gip ar dudalen Y Farchnad ar eich gwefan fro, i gael gweld holl fusnesau eich bro mewn un man.

Mae modd gweld busnesau ardal Aberystwyth, ardal Llanbed, Caernarfon a Dyffryn Nantlle ar hyn o bryd, gyda mwy i ddod.

Bwriad Y Farchnad yw cynnig hwb i fusnesau ar ddiwedd blwyddyn galed, yn ogystal â chaniatáu i bobol leol allu dod o hyn i siopau a chrefftwyr eu hardal mewn un lle.

Ystyriwch yr holl bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu’r busnesau bychain hyn – y rhan fwyaf ohonynt o glydwch eich cartref!