Bwrlwm Caernarfon yn creu’r galw am wefan straeon lleol

Cynhelir sesiwn i sefydlu gwasanaeth digidol newydd Caernarfon ar 5 Mawrth yn Galeri, 5.30pm.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ar ôl casglu barn gan aelodau mudiadau amrywiol, mae Bro360 am fwrw ymlaen i helpu pobol dre’ i sefydlu gwefan a gwasanaeth digidol newydd i Gaernarfon.

Wrth gasglu barn fis diwethaf, daeth i’r amlwg bod galw am wasanaeth newydd ar-lein sy’n crynhoi popeth sy’n dda am Gaernarfon. Mae’r bwrlwm yn amlwg i bawb sy’n byw ac yn gweithio yn dre’ – o sesiynau creadigol Gŵyl Arall a phrysurdeb yr Ŵyl Fwyd yn yr haf, i gigs Noson 4 a 6 a’r gwaith da sy’n cael ei wneud gyda phobol ifanc gan y Gwasanaeth Ieuenctid, GISDA a Chanolfan Noddfa, i enwi ond rhai.

Yn ôl yr ymchwil, mae’r galw mwyaf am galendr digidol, lle i rannu hanesion diweddaraf clybiau chwaraeon yn y fro, platfform newyddion lleol Cymraeg, a lle i dynnu sylw at fusnesau Caernarfon.

Mae gan Bro360 y potensial i droi anghenion a syniadau pobol leol yn arfau digidol sy’n gwneud gwahaniaeth i’r fro – o blatfform i ddangos fideos uchafbwyntiau gemau chwaraeon lleol, i galendr digidol sy’n crynhoi’r holl ddigwyddiadau bach a mawr sy’ mlaen. Dyma ein cyfle i ddefnyddio technoleg i wneud lles i’r gymdeithas.

Fel gwefannau DyffrynNantlle360, ogwen360 a BroAber360, gwasanaeth ‘gan y bobol’ fydd hwn. Trigolion dre’ fydd yn sgwennu’r straeon, yn cyfrannu’r fideos ac yn hyrwyddo eu digwyddiadau, a bydd staff Bro360 ar gael i gynnig cymorth, cyngor a hyfforddiant i sicrhau bod cymaint o bobol leol â phosib yn manteisio ar y cyfle i gael llais a hybu’r fro.

A nawr yw’r adeg i fynd amdani gyda’r prosiect, er mwyn manteisio ar ddwy flynedd o gymorth ac ysgogiad gan Bro360 mewn cyfnod sy’n pontio’r oes print a’r oes digidol.

Cynhelir ‘Creu gyda’r Cofis’ – sesiwn Bro360 i sefydlu gwasanaeth digidol newydd Caernarfon – am 5.30pm ar nos Iau 5 Mawrth 2020, yng nghaffi Galeri.

Dewch i wybod sut y gall y pethau sy’n bwysig i chi elwa, ac i osod eich stamp ar eich gwefan newydd!