Busnesau bach sy’n mentro yn ysbrydoli cyfres podlediadau newydd

Poblado Coffi yn Nyffryn Nantlle sy’n cael sylw Shân yn rhifyn gynta cyfres Blas o’r Bröydd

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dros yr wythnosau’n arwain at y ’Dolig bydd cyfres o bodlediadau’n ymddangos gan Bro360, i glywed stori busnesau annibynnol sydd wedi mentro yn ystod cyfnod y pandemig.

Gohebydd lleol golwg360, Shân Pritchard, sy’n cyflwyno’r gyfres Blas o’r Bröydd.

Bydd yn sgwrsio â pherchnogion busnesau bwyd a diod o Ddyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris a Cheredigion wrth geisio darganfod beth sydd wedi eu cymell i fentro ar gyfnod mor ansicr.

Y rhifyn cynta’

Mae cwmni Poblado wedi mentro i ddarparu mwy na llymaid o goffi – mae wedi cynnig cyfleoedd i’r gymuned ddod ynghyd gyda sesiynau ioga a cherddoriaeth fyw yn yr awyr agored hefyd yn y caffi yn Nyffryn Nantlle.

Y sylfaenydd Steffan Huws sy’n cadw cwmni i Shân yn pod cynta’r gyfres – Graen o goffi.

 

 

Mae straeon a hanesion difyr iawn i ddod – am gwmni cwrw sy’n lansio lagyr newydd, ffermwyr ifanc sy’n mynd â llaeth yn syth o’r fuwch at y cwsmer, cwmni sy’n credu’n gryf mewn cynhyrchu caws yn y modd traddodiadol, a busnes bach sydd wedi gweld eu pitsas yn fflïo allan i gartrefi pobol!

Mae Blas o’r Bröydd ar gael ar Spotify, Google ac Apple Podcasts, Anchor, Y Pod ac yn y mannau arferol.

Tanysgrifiwch, dilynwch a rhannwch – efallai y cewch chi eich ysbrydoli i fentro!