BroAber360 yn datblygu’n fodd i brynu a gwerthu, creu cymdeithas y dyfodol a rhannu straeon lleol

Amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu cynnal yr wythnos hon gan drigolion gogledd Ceredigion

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae gwefan fro yn lle delfrydol i rannu straeon sy’n bwysig yn lleol. 

Ddoe, cyhoeddwyd blog hanes gan Aled Morgan Hughes ar BroAber360, sy’n ymchwilio i ymateb Aberystwyth i her Ffliw Sbaen.

Dridiau’n ôl, yn fyw o’r digwyddiad, cyhoeddwyd lluniau o brotest heddychlon #BlackLivesMatter yn Aberystwyth.

A’r wythnos diwethaf cyhoeddwyd enw pencampwyr Cynghrair Pêl-droed y Cambrian Tyres, er na lwyddwyd i orffen y tymor oherwydd yr argyfwng.

Ond mae eich gwefan fro yn FWY na lle i rannu straeon yn unig.

Marchnad a mwy

Yr wythnos hon, bydd llwyth o bethau gwahanol yn cael eu creu dan faner BroAber360 – er mwyn dangos yr amrywiaeth sy’n bosib gyda’r gwasanaeth newydd yma.

Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yw y bydd BroAber360 yn troi i mewn i siop ddydd Gwener! Gallwch brynu gan lu o grefftwyr lleol yn y farchnad ddigidol.

Bydd busnesau a chrefftwyr lleol yn hollbwysig i’n cymdeithas wrth i ni ddod mas o’r argyfwng. Dyma ein cyfle i ddefnyddio’r we i’w cefnogi nhw, a chadw’r economi leol i droi mewn cyfnod mor ansicr.

Sail yr wythnos gyfan yw mai chi sy’n cymryd rhan – pobol gogledd Ceredigion fydd yn llywio’r wythnos. Yn gwylio’r fideos ac yn darllen y straeon – ie – ond hefyd yn cyfrannu at y creu.

Dyma’r cyfleoedd i gymryd rhan:

  • Rydym am gasglu hoff eiriau tafodieithol y fro. Rhannwch eich hoff air a disgrifiad bach ohono ar Twitter, Instagram neu Facebook gyda’r hashnod #EinBro.
  • O fory ymlaen gallwch roi sylw ychwanegol i fusnesau bach y fro. Tagiwch eich hoff gwmnïau ar Insta-stori a phasio’r her ymlaen i ffrindiau.
  • Bydd pethau ddim yr un fath ar ôl y coronafeirws. Bydd nos Fercher yn gyfle i ni ddychmygu’r dyfodol, mewn sgwrs ar Zoom. Pa fath o gymdeithas ydym ni am ei gweld ar ôl yr argyfwng? Ebostiwch post@bro360.cymru i gael cod i’r sgwrs Zoom.
  • Bydd modd i chi gymryd rhan mewn reid seiclo ddychmygol gyda’r pencampwr Gruff Lewis ddydd Gwener, a phaentio gyda Teilo gyda’r nos.

Dyma amserlen dydd Gwener yn llawn:

10am Reid ddigidol – Gŵyl Seiclo Aber

2pm Creu pypedau – Arad Goch

3pm tan 8 Ffair Grefftau – Crefftwyr Aberystwyth

4pm Hanes Soar y Mynydd – Gwilym Jenkins

5.15pm Yn Un Rhith – Côr ABC

6pm Hunan-dylino – Alexis Flores Williams

7pm Cyflwyniad i gelf haniaethol – Teilo Trimble

8pm Set byw gan Bwca