Bro360 yn cefnogi gwaith da’r Mentrau

Dan fuodd yn cynrychioli Bro360 yn y Marine, Aberystwyth yng Ngwobrau Mentrau Iaith Cymru.

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Nos Fercher diwetha (Ionawr 22), bues i’n ddigon ffodus i gyflwyno gwobr i un o Fentrau Iaith Cymru, yn eu noson wobrwyo gyntaf erioed yng ngwesty’r Marine, Aberystwyth.

Roedd hi’n noson wych, ac yn ddathliad arbennig o’r holl waith da mae’r Mentrau yn ei wneud ar draws Cymru i hyrwyddo’r iaith mewn ffyrdd arloesol a hwylus.

Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr enillodd y wobr yr oeddem ni yn Bro360 yn ei noddi, am waith y fenter yn ‘cydweithio â phartner’ wrth sefydlu a chynnal Gŵyl Canol Dre yng Nghaerfyrddin.

Roedd hi’n arbennig o braf i ni gael y cyfle i noddi’r wobr hon, gan fod cydweithio yn rhan greiddiol o brosiect a photensial Bro360 a’r gwefannau bro.

Llongyfarchiadau i bob un gafodd eu henwebu am eich syniadau newydd a’r gwaith da.

Dyma grynodeb o’r Mentrau eraill aeth o’r Marine ar ben eu digon:

  • Datblygu Cymunedol – Meithrinfa Derwen Deg, MI Conwy
  • Digwyddiad – Parti Ponty, MI Rhondda Cynon Taf
  • Technoleg – WiciMôn, MI Môn
  • Gwirfoddolwyr – Lloyd Evans, am wirfoddoli gyda MI Bro Ogwr

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)