Blas o’r Bröydd: podlediad i godi eich calon

Gwrandwch i glywed gan bump o gwmnïau bwyd a diod lleol sydd wedi mentro yn ystod y pandemig

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Pod Peint o Laeth: Gwarffynnon
Pod Peint o Gwrw: Cwrw Ogwen
Pod Pizza a Peint: Gallt-y-glyn
Pod Cosyn o Gaws: Cosyn Cymru
Pod Graen o Goffi: Poblado Coffi
Cyfres podlediadau Blas o'r bröydd

Mewn argyfwng, yn aml daw llygedyn o obaith.

Cydio yn y gobaith hwnnw oedd nod cyfres newydd o bodlediadau Blas o’r Bröydd, gan Bro360.

Mewn adeg mor anodd ac ansicr i fusnesau bach yn 2020, aeth sawl un ati i fentro o’r newydd, addasu a llwyddo.

Mae gohebydd lleol golwg360, Shân Pritchard, wedi bod sgwrsio â phump o’r perchnogion busnes hynny yn ystod y gyfres, i ddarganfod beth sydd wedi eu hysbrydoli i addasu a mentro, a beth sy’n gwneud busnesau bach lleol fel nhw mor bwysig.

O beint o laeth i beint o gwrw newydd, o ddechrau cludo llwyth o bitsas i ddod adre o America i weithio i gwmni caws y teulu – mae yma dipyn o amrywiaeth, a blas o bob dim! Mae’r rhifyn olaf cyn y Nadolig yn olrhain datblygiad fferm yn ardal Llanbed sydd wedi dechrau gwerthu llaeth mewn ‘vending machine’ yn y dre, ac sydd ag ymgyrch farchnata Nadoligaidd hyfryd!

Os mai cael eich atgoffa ei bod hi’n dal yn bosib goroesi a thyfu, hyd yn oed yn ystod pandemig, sydd ei angen arnoch, gwrandwch ar y gyfres Blas o’r Bröydd i godi eich calon.

Gallwch danysgrifio neu wrando ar holl rifynnau’r gyfres trwy chwilio am Blas o’r Bröydd yn eich pod-le arferol.

Mae’r cyfan ar gael ar Anchor, Soundcloud a hefyd ochr yn ochr â phodlediadau Cymraeg gwych ar wefan Y Pod.