Beth fydd enw gwefan ardal Eco’r Wyddfa?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

DyffrynPeris360?

Chwarelwr360?

BroWyddfa360?

Ai un o’r rhain fydd enw gwefan newydd ardal Eco’r Wyddfa?

Neu efallai bod yn well gennych EcorWyddfa360, Caban360, Peris360 neu Seiont360?

Eich penderfyniad chi fydd o!

Mae ’na awydd yn lleol i greu gwefan straeon lleol newydd, dan gynllun Bro360, fydd yn ategu gwaith y papur bro ac yn manteisio ar y cyfryngau digidol.

Nos Lun 9 Mawrth, mewn sgwrs dros beint yn Nhafarn Glyntwrog, bydd cyfle i bawb o’r fro ddod i sefydlu’r wefan! Cewch ddewis enw eich gwefan fro newydd, dewis eicon sy’n cynrychioli’r ardal, a phenderfynu sut da chi isho i’r wefan wneud gwahaniaeth i’r ardal.

Os na fedrwch ddod nos Lun, beth am ddweud eich barn am eich hoff enw trwy ateb yr holiadur byr iawn yma?