Beth yw eich barn am y wefan hon?

Arolwg i gasglu eich barn chi – pawb sy’n cyfrannu at eich gwefan fro neu’n ymweld â hi

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes digon o straeon difyr ar eich gwefan fro?

Yw hi’n hawdd ei defnyddio?

Sut gallwn eich helpu i gyfrannu ati?

Dyna rai o’r cwestiynau yr hoffai tîm Bro360 eu holi i chi – pawb sy’n defnyddio’r wefan hon – o ddarllenwyr, gwylwyr a gwrandawyr i gyfranogwyr.

A fyddech chi’n barod i gwblhau’r arolwg byr yma?

Diolch yn fawr am roi o’ch amser i’n helpu ni i wella’ch gwefan fro.