Beth yw diwylliant digidol?

Beth ydy diwylliant digidol, a sut mae o wedi effeithio ar ein bywydau’n barod?

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Heb os, rydym yn byw yn yr oes ddigidol. Mae technoleg wedi, ac yn parhau i, ddatblygu mewn ffyrdd newydd, arloesol sydd yn golygu ei bod yn rhan enfawr o’n bywydau – rydych yn darllen y darn yma ar declyn digidol wan, er enghraifft.

Ym mis Mehefin, cychwynnais astudio modiwl o’r enw Diwylliant Digidol gyda Phrifysgol Aberystwyth. Fy ngobaith oedd dysgu mwy am sut mae technoleg wedi datblygu, a sut rydym wedi darganfod ein hunain yn byw mewn byd lle mae technoleg yn effeithio llawer iawn, iawn ar yr hyn rydym yn ei wneud. Dyma rai o’r pethau a ddysgais.

 

Y tair prif theori

Mae tair prif theori ar gyfer y ffordd rydym ni fel cymdeithas yn ystyried technoleg – pa un o’r rhain sy’n fwyaf perthnasol i chi? Beth am adael sylw ar waelod y darn?

  • Penderfyniaeth Dechnegol – Rydych yn credu taw technoleg sy’n dylanwadu ar gymdeithas. Mae’r theori yma’n cael ei darlunio yn ffilmiau megis Blade Runner a The Matrix.
  • Penderfyniaeth Gymdeithasol – Rydych yn credu taw cymdeithas sy’n dylanwadu ar dechnoleg – “technoleg yw effaith galwad cymdeithas amdani.”
  • Adeiladaeth Gymdeithasol – Hanner ffordd rhwng y ddwy theori uchod – mae’r gymdeithas a’r dechnoleg yn effeithio ar ei gilydd.

 

Beth yw diwylliant digidol?

Mae pedair prif elfen i’r term ’diwylliant digidol’ – yr elfennau yma sy’n dangos a yw darn o dechnoleg yn cyfri fel rhan o’r diwylliant digidol.

  • Rhyngweithio – Mae’r dechnoleg yn haws i’w defnyddio. Er enghraifft, y gallu i wylio rhaglen ar Sky wrth recordio un arall.
  • Cydgyfeiriant – Cyfryngau’n rhedeg ar draws ei gilydd. Y gallu i gychwyn gwylio rhaglen ar y teledu, gwylio ychydig ar eich cyfrifiadur a gorffen yr un rhaglen ar eich ffôn.
  • Maint – Cymharwch faint eich ffôn symudol, hefo’r rhai gwreiddiol o’r 80au.
  • Storio ac ansawdd – Y gallu i storio miloedd o ganeuon tra’n eu chwarae i ansawdd uchel nad yw’n dirywio.

 

Lle ydyn ni arni?

Ar hyn o’r bryd rydym yn dod i ddiwedd cyfnod o’r enw Gwe 2.0, ac yn barod i symud tuag at We 3.0 dros y blynyddoedd nesaf.

Beth yw Gwe 3.0 ’da chi’n gofyn? Dyma’r ail gam yn natblygiad y we – y cam sydd wedi ein caniatáu i greu a chyhoeddi deunydd ein hunain, i gael sgyrsiau gyda’n ffrindiau, ac i ddatblygu meddalwedd newydd.

Mae Gwe 3.0 am ddefnyddio mwy o ddeallusrwydd artiffisial er mwyn creu gwefannau mwy agored, cysylltiedig â deallus, ac eisoes mae elfennau o hynny’n dechrau ymddangos yn y gwefannau rydym ni’n eu defnyddio, gyda mwy i ddod yn y dyfodol cyfagos.

 

Sut mae dweud stori?

Mae’r ffordd draddodiadol o ddweud stori yn cael ei herio oherwydd y newidiadau mewn technoleg.

Isod, mae’r ffordd hanesyddol o adrodd hanesion ar y chwith, ac mae’r posibiliadau a’r sialensau y mae crëwyr cynnwys yn eu hwynebu oherwydd technoleg ar y dde.

  • Un person // Sawl awdur
  • Siarad // Platfformau ysgrifenedig
  • Cynulleidfa mewn un lle // Cynulleidfa fyd-eang
  • Pawb yn gwrando // Pawb yn sgrolio ar eu teclynnau.

 

Fel y gallwch weld, mae diwylliant digidol wedi effeithio ar y byd mewn ffyrdd mor chwyldroadol â sut rydym ni fel cymdeithas yn adrodd hanesion. Gyda mwy o ddatblygiadau technegol i ddod, mae’n amser cyffrous i ddychmygu pa fath o gymdeithas byddwn yn byw ynddi dros y blynyddoedd nesaf.

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)