#AtgofGen i wneud lan am ddiffyg Steddfod Gen

Her i bobol Cymru gyd-gasglu atgofion o ymweliadau’r ŵyl genedlaethol a’u bro, i greu un ffrwd fawr

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae gan Bro360 her i bobol Cymru – i hel lluniau ac atgofion o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a’u bro nhw, a’u rhannu i greu un ffrwd fawr o #AtgofGen yn ystod wythnos gyntaf Awst.

Mae pawb yn joio gweld hen luniau neu hel atgofion am y dyddiau da.

Mewn cyfnod fel hyn, lle mae digwyddiadau bach a mawr yr haf wedi’u canslo (yn eu ffurf arferol, beth bynnag) gall fod yn amser digon diflas i bobol Cymru. Byddai cynifer wedi bod wrthi’n cynllunio ymweliadau â’n gwyliau lleol a chenedlaethol yr adeg yma.

Bydd bwlch mawr yn ystod wythnos gyntaf Awst, pan fyddai’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â Thregaron am y tro cyntaf erioed. Bydd yn rhaid aros blwyddyn fach arall cyn y bydd pobol bro Caron yn creu eu hatgofion melys!

Llenwi’r bwlch gydag atgofion

Er mwyn lleddfu rhyw ychydig ar y boen o golli’r ŵyl, mae Bro360 yn cydweithio â’r Eisteddfod AmGen i lansio her i hel atgofion am ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â holl fröydd Cymru.

Mae cymaint o hwyl wedi’i ddal mewn hen luniau, mae cymaint wedi newid dros y blynyddoedd ar y maes, ac mae cymaint o straeon hapus gan bobol am ymweliad yr ŵyl genedlaethol â’u bro. Mae eleni’n gyfle perffaith i ni gyd-gasglu’r atgofion hynny gan bobol o bob cwr o Gymru.

Sut mae cymryd rhan?

  • ewch i chwilota yn eich atig neu’r hen focs sgidiau dan y gwely, am luniau ac atgofion o’r troeon y bu’r ŵyl genedlaethol yn ymweld â’ch bro
  • rhannwch eich atgofion ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #AtgofGen a thagio Bro360
  • ewch i Bro360.cymru ar ddydd Mercher 5 Awst i weld ffrwd byw o’r cyfan yn cael ei ddatgelu

Tip gyda hen luniau

Does dim angen offer drud a sganwyr enfawr i ddigido hen luniau. Mae gan y ffonau symudol diweddaraf gamera cystal â rhai camerâu proffesiynol! Ceisiwch ddod o hyd i le sydd heb ormod o olau uniongyrchol, a thynnwch lun o’ch hen lun ar y ffôn.

I bwy?

Er nad oes gwefan fro gan bobol ardal yng Nghymru – gan mai gweithio yn ardaloedd Arfon a gogledd Ceredigion y mae prosiect peilot Bro360 – dyma gyfle i bawb ym mhob cwr o’r wlad gyfrannu gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i greu un ffrwd fawr o straeon ‘gan y bobol’ ar wefan Bro360.cymru.