#AtgofGen: cofio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’ch bro

Ffrwd fawr fyw o’ch atgofion CHI!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!

Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.

Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!

Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.

15:23

Yma, mae William Howells yn rhannu erthygl y diweddar W J Edwards ym mhapur bro Y Tincer, sy’n gofnod pwysig o ‘gynhaeaf’ Eisteddfod Genedlaethol 1982.

Mae yma sawl enghraifft o waddol yr ŵyl yn y fro.

Parch W J Edwards

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 4/4 #AtgofGen

William Howells

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 4

15:19

Mwy o atgofion Dylan Lewis o Eisteddfod ’84. Y tro yma, mae’n cofio prysurdeb y dydd Mawrth.

Dyma ei ddyddiadur personol, yn grwt 12 oed!

Fy Nyddiadur Personol – 7fed o Awst
Bore – Gwerthu Clonc ar y Maes a chael dwy geiniog am bob copi a werthwyd.  Mae gwobr hefyd i werthwr gorau’r wythnos.
2.30yp Gweld y Coroni yn y Pafiliwn gan fod Tad-cu a Mam-gu wedi noddi’r Goron.
6.00yh Ymarfer Côr yr Urdd gyda Trebor Edwards yn Festri Soar.
7.30yh Cyngerdd Hafod Henri yn y Pafiliwn.
(Menyw o’r enw Viera yn aros gyda ni ym Mronwydd).

 

Mwy ar Clonc360 ?

#AtgofGen Coroni Ffermwr a chyfaill ysgol yr Archdderwydd ar y Dydd Mawrth yn Llanbed

Dylan Lewis

Diwrnod y Coroni, cyhoeddi Clonc a gwobrau i Timothy Evans a Meinir Dwynant yn Eisteddfod 1984

15:15

Un o drigolion Tregaron sy’n hel atgofion o pan aeth y côr meibion lleol i gystadlu – diolch Catherine Hughes.

Bydd Tregaron 2021 yn llawn corau a phartïon lleol, mae’n siŵr, a’r cyfan yn rhannu eu straeon ar wefan newydd sbon Caron360!

14:56

Disgrifiad o seremoni arbrofol Tlws y Ddrama a gofnodwyd ym mhapur bro Clonc.

Ond hefyd, cofnod o araith bwysig gan Lywydd y Dydd, Elystan Morgan, a fu’n galw am 3 pheth i ymgyrchu drostynt er mwyn sicrhau datganoli i Gymru:

1. Dychwelyd i fater o lywodraeth dros faterion cartref yn enwedig ar ôl siomedigaeth refferendwm 1979;

2. Canolbwyntio ymdrechion ac adnoddau ar gyfer ysgolion meithrin yng Nghymru er mwyn trawsnewid yr iaith Gymraeg, a

3. Galw am adolygu Deddf Iaith 1967.

Mwy yma ?

#AtgofGen Seremoni arbrofol Tlws y Ddrama ond protestiadau ac ymgyrchoedd ar y Maes

Dylan Lewis

Cymdeithas yr Iaith a Streic y Glowyr yn cael sylw ar Faes Eisteddfod 1984 ar y dydd Llun.

 

14:52

Lluniau T Llew yn traddodi o’r llwyfan, Cardi yn ennill y Gadair, a MWD – gan William Howells ar BroAber360.

‘Heb Fwd, Heb Eisteddfod’ medden nhw!

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 3/4 #AtgofGen

William Howells

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 3

14:48

Un o’r Cardis sy’n hiraethu am groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’w sir yw Angharad (Inc) Morgan.

Dyma hi yn joio yn 92!

Steddfod Aber 1992 – na beth oedd joio ? Siwr fydd 2021 llawn cystal! Here’s me loving life at the National Eisteddfod…

Posted by Siop Inc on Monday, 3 August 2020

 

14:41

Llwyddodd Gwyn Jenkins i ddal seremoni urddo ’92 fel ffilm ar ei gamera fideo newydd. Gohebydd bro go iawn!

Ond pam ei fod yn ei disgrifio’n seremoni di-urddas, tybed?

Urddo Diurddas #AtgofGen

Papur Pawb

Fideo o seremoni urddo Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992.

 

14:39

Faint o bobol sydd â cofnod dyddiadur tebyg i Dylan ar ddydd Sul cyntaf ymweliad y Steddfod Genedlaethol â’ch bro?

Fy nyddiadur personol – 5ed Awst

Er ei fod yn ddydd Sul, roedd hi’n ddiwrnod prysur iawn i fi heddiw gan geisio dala popeth.
9.30yb Ymarfer Côr yr Urdd ym Mhabell Bedlam.
10.30yb Mynychu Gwasanaeth yn y Pafiliwn a chanu gyda Chôr yr Urdd.
2.00yp Ymarfer Côr yr Urdd eto yn Soar.
2.45yp Ymarfer adrodd gyda Dilwen Roderick.
3.30yp Mynychu Gwasanaeth Bedlam yn y Babell Ieuenctid.
7.30yh Mynychu Drama Gerdd “Dewrach Rhain” yn Theatr Felinfach.

Mwy ar Clonc360 ?

#AtgofGen Dydd Sul Steddfodol Prysur a Safonol

Dylan Lewis

Ymarfer, ymarfer, ymarfer, dau wasanaeth a chyngerdd ar ddydd Sul Eisteddfod Genedlaethol 1984.

 

14:37

Mae ’na rai yn darogan y bydd Eisteddfod Ceredigion 2021 (erbyn hyn!) yn Nhregaron yn un o’r gorauon. Pam? Am y bydd wedi’i lleoli yng nghanol tre fach yng nghanol y wlad.

Tebyg i Steddfod Llanbed 84. Mwy o hanesion o’r fan honno ar Clonc360 ?

#AtgofGen Paratoi ar gyfer Gŵyl Genedlaethol mewn Tref Fach

Dylan Lewis

Braslun o hanes paratoadau Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

 

Mae un peth yn wir. Bydd gwefan fro newydd sbon Caron360 yn llawn dop o stwff erbyn Awst 2021!

14:32