O ardal BroAber:
Hergest (Elgan Phylip) ar ben y poster.
Ar wahân i’r ‘enwogion’ eraill:
Côr Cerdd Dant Aelwyd Caerdydd dan arweiniad Nan Elis (ar waelod y poster).
Eiry Jones, Dole 3ydd o’r chwith ail res.
Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!
Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.
Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!
Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.
Llun unigryw o’r Archdderwydd W J Gruffudd a’i gopi o rifyn Sadwrn olaf Clonc – cafodd rhifynnau o’r papur bro lleol eu cyhoeddi’n arbennig yn ystod wythnos Eisteddfod ’84 gan y criw lleol
Diolch i @tref65 am lun unigryw o’r Archdderwydd W J Gruffudd a’i gopi o rifyn Sadwrn olaf #PapurBro Clonc ar Faes Eisteddfod #LlanbedrPont Steffan a’r fro 1984 yng nghwmni Haydn Richards ac Arthur Roderick. #AtgofGen #EisteddfodAmGen @Bro__360 #Cofio84 pic.twitter.com/txyECuJ29Q
— Papur Bro Clonc (@Cloncyn) August 2, 2020
Diolch Ann Barlow a Gwen Màiri am y lluniau a’r atgofion yma
Tadcu (yr un sy’n gwisgo du), Sam Jones, Llanllwni. @eisteddfod #AtgofGen Llambed 1984 https://t.co/wKiOTzBOjk
— Gwen Màiri (@GwenMairi) August 1, 2020
Cofio ymweliadau o dramor yn 92
Llydaw a Llydawyr yn Eisteddfod #Aberystwyth 1992 #AtgofGen #steddfodamGen @BroAber_360 @Bro__360 @eisteddfod pic.twitter.com/MKlQcf55yu
— Ewrop – Cymru/Wales (@EwropiGymru) August 1, 2020
Profiad bythgofiadwy i Trefina Jones oedd cael ei hurddo i’r orsedd ar ymweliad yr ŵyl â stepen ei drws.
Ac mae’n cofio manylion y criw lleol fu’n smwddio!
“Roedd Mam a nifer o wragedd yr ardal gan gynnwys llawer o’m Antis o ran enw, os nad o ran perthynas, sef Anti Ann Bronwydd, Anti Eryl Gerlan ac Anti Beti’r Mans wedi bod yn rhan o’r fintai o wragedd lleol a fu’n smwddio gwisgoedd yr orsedd- gorchwyl go anodd!”
Mwy ar Clonc360 ?
#AtgofGen Urddo i’r Orsedd yn Llanbed
Diolch Trefina. Oes gennych chi atgof o pan ddaeth y Steddfod Genedlaethol i’ch bro?
Rhannwch gyda’r hashnod #AtgofGen heddiw, cyn 3pm!
Mae Casgliad y Werin wedi bod yn twrio trwy’r archif ar gyfer #AtgofGen hefyd.
Dyma Gôr Genethod Llanberis yn Eisteddfod 1978. Oes rhywun yn cofio’r lleoliad?
Ewch ati i chwilio am hen luniau o ymweliadau'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru â'ch bro chi i lenwi'r we gydag #AtgofGen!…
Posted by Casgliad y Werin Cymru on Friday, 31 July 2020
Mae Enfys Medi yn dal i canu cytgan un o ganeuon Pasiant y Plant gyda Digion y Dolffin!
#atgofgen Steddfod Aber 92 – cymryd rhan yn Pasiant y Plant gyda Digion y Dolffin a joio'r profiad! Dwi dal yn gallu…
Posted by Enfys Medi on Wednesday, 5 August 2020
Diolch Enfys. Os hoffech chi gyfrannu – gwnewch fel wnaeth Enfys a rhannu pwt o atgof neu lun ar gyfryngau cymdeithasol, a chofio’r hashnod #AtgofGen!
Diolch Penri Williams am yr atgofion o Gasnewydd!
Heb weld atgof o ymweliad yr ŵyl â dy fro di?
Cyfranna!
Postia hen luniau neu atgofion ar Facebook neu Twitter gyda’r hashnod #AtgofGen!
Y cynta o bedwar stori gan William Howells ar BroAber360 yn cofio nôl i ymweliadau’r ŵyl genedlaethol a’r dref ger y lli.
Lluniau arbennig o 1916 ac 1952, ac ambell wyneb cyfarwydd yn y lluniau o’r torfeydd yng Ngŵyl Gyhoeddi 1991.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 1/4 #AtgofGen
Her dros ginio!
Allwch chi enwi’r bobol yma o boster Eisteddfod Aberteifi 1976?
Pwyswch ‘Ymuno’ ar dop y wefan hon, a gadewch eich sylwadau isod!
#AtgofGen @Bro__360 @BroAber_360
Allwch chi enwi rhai o'r rhain?
Oeddech chi yno?
10.30 Pafiliwn 6 Awst 1976 pic.twitter.com/l4J6ABAUof
— Hanes Aberteifi (@HanesAberteifi) August 3, 2020