Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!
Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.
Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!
Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.
Diolch i Helen Greenwood am dyrchu trwy hen luniau i ddod i hyd i’r rhain – cofnod o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’u bro yng Nglynebwy.
10 mlynedd yn ol i heddiw roeddem yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu pawb i @eisteddfod Blaenau Gwent yng Nglyn Ebwy, tafliad carreg o'n cartref ni. Wythnos anhygoel ac mae'r atgofion dal yn codi gwen #Glynebwy #2010 pic.twitter.com/eGUM5uFNwe
— Helen Greenwood (@HelenGGlynEbwy) July 31, 2020
Busnes sychedig oedd steddfota pan ddaeth yr ŵyl i Lanbed yn ’84.
Pam? Wel, doedd dim hawl yfed ar y maes bryd hynny. Ond roedd rhai wedi bod yn graff iawn gyda’r rheol yma… ;)
Mwy ar wefan Clonc360: