
Imovie (iOS) – Er mwyn golygu unrhyw fath o fideo yn gyflym ar eich ffôn symudol.

Splice (iOS ac Android) – Modd golygu fideos sydd wedi cael eu uwchlwytho ar facebook.

Videorama (iOS) – Defnyddiol i olygu fideo ar gyfer instagram – modd lawrlwytho lluniau am ddim o Pixabay hefyd.

Magisto (iOS ac Android) – Da ar gyfer golygu fideos sydd am gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

InShot (iOS ac Android) – Da ar gyfer golygu fideos sydd am gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Modd golygu lluniau ar yr app hefyd.

YouCut (Android) – Prif bwrpas yr app yma yw golygu fideos yn syml, cyn eu uwchlwytho i YouTube.

FilmoraGO (iOS ac Android) – Modd golygu fideo a rhannu’r canlyniad gyda eich ffrindiau.

Kinemaster (iOS ac Android) – ap golygu fideo cyflawn. Creu fideos o safon uchel.
Dyma gasgliad o apiau syml sydd ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn golygu fideo ar dy ffôn symudol.
Mae rhai yn addas ar gyfer ffonau sy’n defnyddio system iOS (Iphone), eraill yn addas ar gyfer ffonau Android, ac ambell un yn addas ar gyfer y ddau.
Cer ati i arbrofi ac i greu!