Addunedau i’n helpu i wella mwy na jest ni’n hunain!

Chwilio am adduned blwyddyn newydd sy ddim rhy heriol, ac sy’n gwneud lles i chi ac i’ch cymuned?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ry’n ni’n aml yn dechrau blwyddyn newydd gydag egni newydd. Ry’n ni’n meddwl am newidiadau bach (neu fawr!) y gallwn ni eu gwneud er mwyn gwella ein bywyd tamed bach.

Pam? Efallai achos ein bod ni’n anhapus gyda rhywbeth (wedi’i gor-wneud hi gyda’r siocledi dros y Dolig?!) ac yn gweld bod angen newid. Neu achos bod blwyddyn newydd yn gyfle da i osod her newydd i’n hunan.

Beth bynnag yw ein rhesymau dros feddwl am addunedau (realistig a diddorol!) i’n hunain ar gyfer 2020, mae’r un angen yn bodoli yn ein cymdeithas hefyd.

Ar ôl etholiad cyffredinol mis Rhagfyr, y sôn am drychinebau naturiol ar draws y byd, a holl wario dwl y Dolig, bydd llawer o bobol wedi bennu’r flwyddyn yn teimlo’n ddigon isel, ac yn gweld bod cymaint sydd angen ei newid. Mae’n gallu teimlo fel mynydd mawr i’w ddringo.

Dechrau wrth ein traed

Ond, gyda’r gwanwyn o fewn cyrraedd a’r diwrnodau’n ‘mestyn, mae ’na obaith am ddechreuadau newydd.

A’r ffordd orau o newid pethau yw wrth ddechrau wrth ein traed.

Gallwn ni – bob un ohonom – wneud pethau bach cadarnhaol er ein lles ni’n hunain a phawb arall. Pethau all ein helpu i gynnal bro a gwneud gwahaniaeth i’n cymdeithas. Achos trwy weithredu’n lleol-iawn y mae dechrau chwyldro mwy…

Gwneud y pethau bychain

Felly ar ddechrau blwyddyn a degawd newydd fel hyn, beth am roi cynnig ar ambell un o’r syniadau yma yn 2020?

Gallwch wneud mwy o rywbeth ry’ch chi’n ei wneud yn barod, neu wneud un peth yn fwy rheolaidd. Neu os y’ch chi’n teimlo’n ofnadw’ o fentrus, gallech geisio gwneud y cwbwl!

  • dweud “shwmai” neu “su’mae” wrth fynd am dro (mae’n ffordd rhwydd o hybu bodolaeth y Gymraeg!)
  • rhoi un eitem yn y banc bwyd lleol bob mis (ble maen nhw)
  • gwario eich ceiniogau mewn siopau lleol ac ar gynnyrch lleol (i leihau ôl-troed carbon a chefnogi busnesau sy’n cefnogi ein cymdogaethau)
  • darllen llyfr newydd a’i basio ymlaen at ffrind neu ddieithryn
  • cyfrannu stori (neu lun, neu ddigwyddiad) i’ch gwefan fro (fideo yn dangos sut)
  • rhedeg (neu gerdded!) yn eich Park Run lleol (map)
  • rhannu digwyddiadau lleol ar eich cyfri personol ar Facebook, Twitter, Insta ac ati (a mynychu ambell un!)
  • sgwennu erthygl Wicipedia Cymraeg am bwnc diddorol (a helpu i ehangu’r Gymraeg ar-lein)
  • ymuno â thîm / clwb / cymdeithas yn eich bro, a joio ?

Mwy!

Oes gennych chi syniadau eraill?

Rhannwch nhw yn y blwch sylwadau! ?