Sut fyddwch chi’n cofio 2020?
Blwyddyn heb gyfarfodydd, eisteddfodau, sioeau, na gigs i’n diddanu? Efallai wir.
Cymdeithas yn dod i stop yn sydyn, a dim i’w ddweud wrth y dyn drws nesa’ tu hwnt i “diwrnod braf, ‘dydi”? O bosib.
Blwyddyn hesb, heb fawr ddim i’w drafod, dathlu na’i gofnodi? Nid o reidrwydd.
Dros y saith mis dwytha’ mae cyfranogwyr Bro360 wedi bod wrthi’n ddiwyd yn creu deunydd amrywiol a diddorol, gan brofi bod posib creu hyd yn oed pan fo’r byd o’n cwmpas yn arafu.
Ar y 7 gwefan – BroAber360, Clonc360, BroWyddfa360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360, Caron360 ac Ogwen360 – mae unigolion a chymdeithasau wedi mynd ati i greu a sgwennu straeon o bob math.
Dyma ddetholiad o’r straeon hynny…
1. Codi arian
Dros y Cyfnodau Clo mae nifer fawr ohonom wedi codi arian at elusen – anodd fyddai dod o hyd i unrhyw un na redodd 5K na bwyta ŵy amrwd cyn cyfrannu’n hael i’r GIG!
Bu nifer o gyfranogwyr y gwefannau bro yn ymgymryd â heriau, gyda chlybiau pêl-droed yn rhedeg am filltiroedd a milltiroedd, plant yn chwarae gemau cyfrifiadurol am 12 awr ar y tro, ac eraill yn cerdded eu bro i godi arian.
A bu’r gwefannau bro yn fan perffaith i rannu dolenni Just Giving ac ati gyda’u stori, i’w gwneud hi’n haws i bobol gefnogi’r achos.
Llwyddiant Ymgyrch Elusennol CPD Waunfawr
Gemathon Iestyn a’i frodyr er budd Kids Cancer Charity
Trek 26 milltir lleol er mwyn Cymdeithas Alzheimer’s
2. Busnesau’n addasu, blaguro ac arloesi
Bu’r cyfnod clo yn un anodd iawn i fusnesau, ond llwyddodd cwmnïau bychain i addasu ac arloesi er gwaetha’r anawsterau.
Dyfnhaodd gwerthfawrogiad cymunedau tuag at siopau lleol, ac wrth i helyntion ynghylch archfarchnadoedd feddiannu’r cyfryngau’r wythnos hon dyma ambell stori am fentergarwch a dyfalbarhad ein busnesau bychain…
Bwyty a lleoliad bendigedig newydd yn agor yng Nghaernarfon
Addasu i’r normal newydd yn Poblado Coffi.
Bwyty Hwngaraidd newydd yn Aberystwyth
3. Hanes yr ysgolion
Ers i ysgolion ailagor mae nifer o gyfranogwyr Bro360 wedi bod wrthi’n cofnodi gweithgareddau eu hysgolion, o gasglu arian i greu fideos am dafodiaith leol, o ddiolch i deuluoedd y pentre’ i ganu caneuon sioe cerdd.
2020: Blwyddyn hesb, heb fawr ddim i’w drafod, dathlu na’i gofnodi?
Sêr Ysgol Mynach
Ysgol Dolbadarn
4. O un sesiwn Zoom i’r nesa’
Yn absenoldeb cael cyfarfod ag eraill wyneb yn wyneb, rhedodd sawl cymdeithas, côr, gŵyl a sioe i freichiau agored Zoom.
O gyfarfodydd llenyddol i eisteddfodau, o sioeau amaethyddol i wyliau cerddorol, cynigiodd y byd digidol achubiaeth fechan i’r celfyddydau a’n ffordd o fyw.
Rhaglen o gigiau mawr yn dod i Neuadd Ogwen
Sioe Ddigidol C.Ff.I. Llanllwni 2020
Gŵyl Fwyd yn paratoi arlwy o ddigwyddiadau digidol
5. Profiadau pobol
Mae gan bawb eu stori eu hunain.
Mae pobol, busnesau a mudiadau lleol wedi wynebu heriau o bob math yn sgil y pandemig, ac wedi llwyddo i ymdopi’n rhyfeddol â’r newidiadau. Bu ambell un o’n cyfranwyr wrthi’n ysgrifennu am eu profiadau, o blismona’r rheilffyrdd yn Arfon, i ddysgu Arwyddiaith i eraill yng Ngheredigion.
Tai hyblyg y cyfnod clo
Cyfle i ddysgu Arwyddiaith dros yr haf
Plismona’r rheilffyrdd yn ystod y Cyfnod Clo
6. ‘Lle awn ni am dro heddiw?’
Dwi’n siŵr i’r cwestiwn yma gael ei ofyn yn feunyddiol ym mhob cartre’ yn ystod y Cyfnod Clo cynta’. Denwyd nifer ohonom i ailgynefino, darganfod llwybrau newydd ar ein stepen drws a rhyfeddu at natur mewn ffordd na wnaethom o’r blaen.
Cofnodwyd amryw o straeon am natur, a’r byd tu hwnt i’n pedair wal, ar y gwefannau bro dros y misoedd dwytha’…
Plwyf tecaf y plwyfi
Gardd newydd pentref Silian yn rhoi hwb i fyd natur
Rhaid Gwarchod Enwau Lleoedd
7. Help llaw
Os nad oes dim oll arall wedi dod i’r amlwg yn sgil y pandemig, yna haelioni’r gymuned yw hynny. Yn nyddiau cynnar y Cyfnod Clo daeth cymunedau ar hyd a lled y wlad at ei gilydd i ddarparu bwyd, clust a chymorth i’r bregus.
Pecynau Bwyd am ddim gan Cofis Curo Corona
Seren Gerddorol Ryngwladol Cymru yn aros gartref i helpu’r gymuned
“Y cyfnod yma yn dangos gwir werth mewn dynoliaeth a chymdeithas”
8. Rhannu hanes lleol
Does ‘na neb yn ‘nabod hanes eich bro cystal â thrigolion yr ardal.
Yn ddiweddar, mae nifer wedi manteisio ar eu gwefan fro i gofnodi hanesion lleol, o ddarpariaeth merched mewn gofal iechyd, i atgofion am Eisteddfodau a fu.
Ai hanes eich ardal chi fydd nesa’?
Cofio Merched y Broydd Llechi: Gofal Iechyd ar yr Aelwyd Chwarelyddol
2020: Blwyddyn hesb, heb fawr ddim i’w drafod, dathlu na’i gofnodi?
Cofio Eisteddfod 1952
9. Chwaraeon
Pan laciwyd rywfaint ar gyfyngiadau’r coronafeirws llwyddodd nifer o dimau chwaraeon i ailgydio mewn ymarferion.
Manteisiodd ambell un o ohebwyr lleol y gwefannau bro ar y sefyllfa, a mynd ati i gofnodi hynt a helynt eu timau lleol…
Aber yn boddi wrth ymyl y lan
Dychwelyd i’r cae hoci
Tîm cyntaf nôl yn hyfforddi-CPD Nantlle Vale
10. Llyfrau, llyfrau, llyfrau
Teg tybio bod nifer ohonom wedi ailgydio mewn llyfr yn ystod y cyfnod clo byr ‘ma, a bod llawer ohonom wedi dianc i’r byd rhwng tudalennau ein hoff nofel eleni.
O nofelau newydd i sefydlu clybiau darllen newydd, mae bwrlwm llenyddol eich bro wedi’i gofnodi ar y 7 gwefan.
Nofel awdur o Geredigion am Blas Nanteos
Clwb Darllen Dyffryn Ogwen
Recordio hanes Tîm Pêl-droed Dynamo Cwmann
Dyma ambell enghraifft ymhlith nifer fawr iawn o straeon sydd wedi eu cyhoeddi ar y 7 gwefan dros y misoedd dwytha’. Ceir adroddiadau gan Gynghorau Cymuned, ambell rysáit difyr, darnau barn a llawer iawn mwy ar wefannau Bro360. Porwch, darllenwch a mwynhewch yr arlwy.
Beth fydd y stori nesa’?
Pwy fydd nesa’ i gyfrannu at eu gwefan fro?
Cofiwch y gallwch chithau rannu eich stori – mae’r gwefannau yn blatfform i bawb sy’n byw yn lleol.
Pa stori fydd yn mynd â’ch bryd chi?